Skip to main content

Y WINLLAN. Rhi-f. 11. Tachwedd, 1848. Cyf. I. CREFYDD YN WERTHFAWR I FARW. Marw yn ddiau ydyw yr amgylchiad pwysicaf ag sydd yn cyfarfod â phob dyn, o herwydd ei fod yn dattod y cysylltiadau anwylaf rhyngom a phob peth yn y byd hwn, a bod ffawd tragwyddol pob dyn yn cael ei benderfynu yn ol sefyllfa ac egwyddorion y meddwl yn yr amgylch- iad yna. Ac yn gymaint a bod ein defnyddioldeb mewn bywyd, ein cysur yn angau, a'n dedwyddwch bythol yn y byd arall, yn ymddibynu ar natur yr egwyddorion a fabwysiedir genym mewn bywyd, dymunir sylw dar- llenwyr ieuainc y Winllan tra yn cyferbynu ger eu bron ddau gymeriad gwahanol yn gwynebu ar yr amgylchiad mawr a phwysig hwn. Y cyntaf ydyw Altamont, dyn ieuanc o alluoedd cryfion, a thalentau gwerthfawr, aphob peth yn cydgyfar- fod ynddo i wneyd ei gwmni yn ddif'yr a hoffus. Ond pan yn ieuanc, ffurfiodd gyfeillach gyda dynion annuwiol a llygredig, yfodd o'r un ysbryd, a chofieidiodd yr un eg- wyddorion a hwythau; ac odditan ddylanwad yr eg- wyddorion yna, tafiodd yr awenau ar war ei lygredig- aethau, ac aeth rhagddo o ddrwg i ddrwg, nes yr aeth yn hynodol am ei ddrygioni, ac yn enwedig ei wrthwyneb- iad i Gristionogaeth. Ond buan iawn y cyfarfyddodd Duw âg ef yn ei ragluniaeth; taflwydef ar wely cystudd; a dyna fe, adyn euog a thylawd, yn gorwedd ar fin y dibyn dû, heb obaith ac heb gysur! Ac yn yr adeg bwysig yna y mae yn troi ei olwg yn ol i'r byd, ac yn griddfan dan bwys ei bechod. Y mae yn edrych trwy y llen i'r byd arall; ac yn ngwyneb y golygfeydd arswydol, y inae natur yn neidio yn ol, a'i enaid yn llewygu gan ofn; ac, yn ngafael arteithiau cydwybod euog wedi deifro, y mae yn gwaeddi allan yn nghyfyngder ei enaid, 11