Skip to main content

Rhif. 10. Ilydi'el", 1848. Cyf. I. HANES BISPAH. Pan ddarostyngodd Josua y Canaaneaid o flaen pobl yr Arglwydd, y Gibeoniaid a ddaethant ato i'r gwersyll i Gilgal, ac a'u rhoddasant eu hunain i fyny iddo; ac efe a wnaeth heddwch â hwynt, a chawsant addewid a llŵ pobl Israel y byddai i'w bywyd gael ei arbed. Trigodd y Gibeoniaid hyn mewn heddwch yn mhlith plant Israel am lawer o flynyddoedd; ond pan oedd Saul yn frenin ar Israel, achosodd, ar un achlysur, i nifer mawr o honynt gael eu rhoddi i farwolaeth. Y trosedd mawr hwn ni chospwyd yn nyddiau Saul ; ond ni all pechod ddianc yn ddigosp, ac y mae cenhedlaethau cyfain yn aml yn dy- oddef o herwydd drygioni eu llywodraethwyr. Yr oedd barn yn crogi uwchben cenedl yr Iuddewon o achos y gwaed diniwaid a dy walltodd Saul. Yn nyddiau Dafydd, anfonodd yr Arglwydd newyn ar y wlad am dair blynedd; ac wrth i Dafydd ofyn yr achos o hono, hysbyswyd iddo, ei fod o achos Saul a'i dŷ gwaedlyd, yr hwn a laddodd y Gibeoniaid. Ar ol ymgynghori à'r bobl hyn, rhoddes Dafydd iddynt saith o wŷr o feibion Saul, y rhai efallai a gynorthwyasant yn y gyflafan, i'w rhoddi i farwolaeth. Rispah ydoedd fam dau o'r meibion hyn i Saul. Ar- weiniwyd y saith dyn hyn gan y Gibeoniaid i ben uwchaf y graig yn Gibea, ac yno y crogasant y cwbl yn nghyd. Yr oedd llawer wedi ymgynull i fod yn dystion o'r dien- yddiad, ac yr oedd rhai yn eu plith yn melldithio enw Saul, oblegid y drygfyd a ddygwyd ar y tir, tra yr oedd ereill yn troi ymaith ac yn ŵylo. Eu cyrff ni thynwyd i lawr i'w claddu, ond yr oeddynt i grogi a braenu nes y byddai i wlaw o'r nefoedd ddisgyn arnynt. Ond nid oedd yn debyg i wlawio yn awr. Cynauaf yr haidd nid oedd ond yn dechreu, ac ni ddysgwylid gwlaw am fìsoedd i