Skip to main content

Y WINLLAN. Rmr. 9. Mcdi, 1819. Cyf. I. FELLY RHEDWCH, FEL Y CAFFOCH AFAEL. I Blant yr Ysgol Sabbothol. Fy anwyl Blant,—Gofynech yn fynych i mi am ad- rodd i chwi ystori; a chan eich bod wedi myned dros eich gwersi, mi a adroddaf un a'ch boddlona, mi a feddyliwn. Chwi a glywsoch am y races, a mynych y rhybyddiwyd chwi i beidio myned yn agos atynt. Yr wyf fi yn myned i adrodd i chwi am yrfa (ra.ce), yn yr hon y gellwch chwi redeg, ac am wobr a ellid ei ennill genych chwi. Y mae yr yrfa hon yn bur fawr, ac y mae ffordd uniawn trwyddi; ac yn y pen draw, yn mhell, y mae castell harddwych, muriau yr hwn sydd ddysgleir- iach nag aur, a choronau dysglaer o amryw faintioli yn hongian tuallan iddo—rhai yn fychain, ddim ond digon i ben baban, a rhai yn gymhwys ddigon i chwi. Rhyw luniau tlysion a ymddanghosant yn awr ac eilwaith tu allan i'r castell, yn gwisgo coronau tebyg i'r rhai sydd yn hongian ar y waliau; ac y mae y geiriau hyn, mewn aur- lythyrenau mawrion,uwchben y drws,—"Felly rhedwch, fel y caffoch afael." A mi yn edrych, ryw ddiwrnod, ar y rhyfeddodau hyn, cychwynai yrholl redegwyr : yr oedd yno wŷr, gwragedd, aphlant. Ar y cyntafhwy a redasant oll yn bur gyflym ar hyd y ffordd, gan gadw eu golwg ar ycoronau; ond bob yn dipyn diflanodd y rhan amlaf o honynt o'm golwg, ac yr oeddwn yn rhyfeddu pa beth a ddaethai o honynt. Mi a welwn, cyn pen ychydig, fod yno lawer o lwybrau ceimion yn troi allan o'r ffordd un- iawn, y rhai a ymddanghosent yn fwy hyfryd ac yn fwy dengar, yn gymaint a bod y brif-ffordd yn arw; ond y rhai hyn oeddynt lwybrau o dir glas esmwyth, a gwelyau o flodau amryliw, a pherarogl o'u deutu, tra yr oedd pebyll yma a thraw yn eu hymyl yn cynwys ffrwythau