Skip to main content

Y WINLLAN. Rhit?. 8. Awst, 1848. Cyf. I. Y RAILWAY NAVIGATOR; SEF BER HANES AM ROBERT BLAKE. Parìiad tudalen 100. Tüa diwedd Gorphenhaf, gan fod y gwaith ar ben yn ardal Crediton, bu raid i Robert symud oddiyno, er mawr alar iddo ef a'i gyfeillion. Arweiniodd Rhagluniaeth ef i le a elwir Tiverton, lle y bu yn ddefnyddiol iawn dros ei Arglwydd am y tymhor byr o'i arhosiad yno. Wedi ei symudiad i Tiverton ni chafodd yr ysgrifenydd gyfleus- dra i'w weled ef ond yn anaml; ond caí'odd ddigon o gyf- leusdra i ẁybod ei fod ef nid yn unig yn dal ei ffordd, eithr yn cynyddu beunydd mewn gwybodaeth, mewn profiad, ac mewn defnyddioldeb. Un nos Sabboth, tua diwedd y flwyddyn 1846, gan fod eisiau rhywun i bregethu mewn pentref bychan yn y wlad, cymhellwyd Robert i sefyll i fyny yn enw yr Arglwydd, i alw pechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd; ac y mae lle i gredu fod yr had da a hauwyd y pryd hyny wedi dwyn ffrwyth. Efe a droes ei feddwl yn fwy neillduol at y gor- chwyl pwysig o bregethu o hyny allan, ac a bregethodd yn achlysurol mewn gwahanol fanau ar olhyny; ac ni bu ei lafur ef yn ofer yn yr Arglwydd. Nid anturiodd efe ar y gwaith mawr hwn heb yn gyntaf feddwl llawer, a gweddio yn daer am oleuni a chyfarwyddiadau yr Ysbryd Glân. Y bregeth a adawodd efe ar ol yn anorphen mewn ysgrifen, a ddengys fod ynddo alluoedd, oddiwrth ba rai y gallesid dysgwyl pethau mawrion mewn amser dyfodol. Er dechre y fiwyddyn 1847, yr oedd Robert i'w weled fel yn addfedu i ogoniant o ddydd i ddydd. Yr oedd ffyrdd crefydd, yn wir, yn ffyrdd hyfrydwch ganddo, a'i holl lwybrau yn llwybrau heddwch iddo ef; ac yr oedd ei lwybr fel y goleuni, yn myned yn oleuach, oleuach,