Skip to main content

Y WINLLAN. Rhit. 6. Melteíìii, 1S4S. Cyf. I. DAME BARTLET A'I CHYFEILLES. Ysgrifenyddes i Gylchgrawn y Traethodau Cref- ddol a ddywed, " Yr oeddwn, ychydig flynyddau yn ol, g da chyfaill claf, yn ymdrechu hyd y gallwn i'w gysuro yn ei gystudd. Yn ystafell fy mherthynas claf, prif destyn ein hymddyddan, un diwrnod, oedd ymddiried yn Nuw. Y wraig a weinyddai i fy nghyfaill oedd oddeutu hanner cant neu driugain mlwydd oed, dull ac ymddang- hosiad yr hon oedd wedi dwyn fy sylw fel un yn meddu gwybodaeth ddofn yn mhethau crefydd. Tra yr oeddwn yn ymddyddan â'r claf ar ein pwnc o ymddiried yn Nuw, dywedodd hon, '0 îe, ymddiriedwch yn Nuw, pwyswch eich ffydd ar y Goruchaf, ac ni'ch siomir. Yn wir, y mae genyf fì achos i wneuthur hyny, Madam,' meddai. ' Yr wyffì yn ferch i amaethwr bychan, ac yn weddw i un arall o'r gyffelyb alwedigaeth. Yn ystod bywyd fy mhriod yr oedd yn ddedwydd iawn arnaf: pan y bu ef farw, gadawodd ar ei ol ddyled drom; aeth stock y ffarm, a dodrefn y tŷ, ac yn wir pob peth oedd genyf ond fy nillad, ar werth i dalu i'r gofynwyr. Yr oedd genyf un plentyn bach, yr hwn oedd y pryd hyny yn bedair oed. Cymerais dŷ, gan ymdrechu cael tamaid i mi a'r plentyn trwy wni'o, a myned ar negesau: ond ni allwn fyned lawer oddicartref o herwydd ybachgen bach. Gwnaethym bob ymdrech i argraffu ar ei feddwl ofn Duw yn more ei oes, ac yr oeddwn yn teimlo mor awyddus am hyny fel yr oeddwn bron yn annghofìo fy nhyiodi. Gallaf sicrhau i chwi, Madam, i mi yn fynych gau fy nrws rhag i'm cy- mydogion weled nad oedd genyf un ciniaw i' w arlwyo. Yr oeddwn wedi fy nwyn i fyny yn dda, ac ni allwn feddwl, ryw fodd, am fyned i gardota. Un noswaith, yr oeddym ein dau yn bwyta ein swper: nid oedd genym