Skip to main content

Y WINLLAN.- Rhif. 5. Mai, 1848. Cyf. I. YR AMDDIFAID. Parlmd íudalen 51. Saith mlynedd a aethant dros fy mhen, yn nghyda'u holl amrywiol gyfnewidiadau. Un o'r rhai ysgafn galon a diniwaid ag oedd yn cydlawenhau â mi yn nedwydd- wch nyth y pysgodwr, fel yr oeddym yn arferol o alw ei fwthyn hyfryd, oedd yn awr yn y bedd; ac yr oeddwn inau mewn amryw ystyriaethau yn ddyn gofidus. Fe'm cymhellwyd unwaith a thrachefn i yinweled â'r ym- drochle rhagorol, ond yr oedd ei harddwch wedi fí'oi. Yr oedd y swn a'r drafferth ynddo yn annyoddefol genyf, a brysiwn i leoedd mwy llonydd. Adgofiad o fawr hy- frydwch oedd, er hyny, yn gysylltedig à"r gymydogaeth, ac mi a gymerais y cyfle cyntaf i ymweled â'r bwthyn croesawgar. Fel yr oeddwn yn agosâu at y feidir lâssydd yn arwain i'r wasgodfa fechan, teimlwn i ryw radd y cynhyrfiad sydd yn cydfyned âg adnewyddiad cyfeillach wedi ei hir attal. Darluniwn Mari gydag amrai blant dedwydd ac iachus—ei gŵr yn fwy syml a gofalus ei ymddygiad, wedi gwineuo, os nid wedi crychu, gan lafur parhaus—yr hen ŵr fe allai wedi myned i orphwys gyda miloedd o rai dedwydd a defnyddiol, na adawant un ôl ar eu llwybr wedi teithio trwy'r byd. Daethym i'r ardd fechan : yr oedd eto yn dlws, wedi ei haddurno yn llai na chynt, ond yn cynwys llawer gwely o blanhigion defnyddiol, a Uawer Uain o flodau hyfryd. Fel y dyneswn at y tý, safais gyda phryder; ond clywais leisiau plantos, ac an- nogwyd fi i fynecl yn mlaen. Golygfa o harddwch an- ianol oedd o'm blaen. Yr oedd yr haul yu dechreu tafiu llewyrch dwfn a melyn av y cymylau a'r mòr; yr hen ŵr oedd yn eistedd ar dwmpath o dywyrch o flaen drws y bwthyn. Yr oedd ci yn gorwedd yn ymyl eifeistr; un