Skip to main content

Rhif. 4. lälwill, 1848. Cyf. I. YR AMDDIFAID. Yb oeddwn yn aros, oddeutu deng mlynedd yn ol, mewn ymdrochle hyfryd ar lan y môr yn y Deheudir, yr hwn, fel llaweroedd o wrthddrychau tlysion, sydd yn awr wedi ei ddystrywio, trwy fod ei degwch cynhenid yn cael ei ganmol a'i addurno yn ormodol. Crwydrasai nifer o honom un prydnawn tesog i bentref lled bell yn y wlad ; ac yn ein plith yr oedd yr holl lawenydd ag y mae calonau ieuainc yn gyffredin yn feddiannol arno. Chwer- them a chanem o dan awyr digwmwl, fel pe na buasem byth, byth, i fyned yn hen. Daliodd yr hwyr ni yn ein difyrwch diniwaid, a'r nos a ddaeth yn ddisymwth ar ein gwarthaf yn gymylog, ac fel yn bygwth ystorom. Camgymerasom ein llwybr, ac wedi awr o grwydro lawer ffordd gul a thy wyll, cawsom ein hunain ar y traeth cre- gynog. Yr oedd llanw y môr yn dechreu llil'o; ond maint y traeth a'n cefnogoddi fyned rhagom yn ddiofn, yn gy- maint a'n bod yn fuan wedi ein boddloni ar gyfer pa le yr oedd ein cartref yn gorwedd. Y rhianod ag oeddynt gyda ni a ddechreuasant ddiffygio, ac yr oeddym bawb yn dra lluddedig pan y cyraeddasom gae bychan ar fin y môr, lle yr oedd y ffordd yn cylchynu bwthyn unigol, Yr oedd goleu cryf y tu mewn, a rai a aethym yn mlaen fy hunan, tra yr oedd fy nghyfeillion yn pwyso ar glawdd yr ardd. Edrychais, heb neb yn sylwi, trwy y ffenestr oedd yn orchuddiedig gan y rhôs; gwelwn ferch ieuanc hardd a phrydferth yn nyddu yn ddiwyd; gorweddai baban mewn cryd yn eihymyl; a hen ŵr penllwyd mewn trwsiad pysgodwr, a'i wallt yn crogi yn hardd-fodrwyog ar ei ysgwyddau, oedd yn syllu, gyda gwyneb dedwydd a charuaidd, ar y plentyn ag oedd yn cysRU. Sefais fynyd i edrych ar yr olwg dawel. Yr oedd pòb peth yn llefaru