Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 3. Mawrth, 1848. Cyf. I. CRYNODEB O'R ATHRAWIAETIIATJ A GREDIR AC A DDYSGIR GAN Y TREFNYDDION WESLEYAIDD. Cychwynasant allan, gan brofFesu eu bod yn Grist- ionogion Beiblaidd. Y maent yn cymeryd yr ysgrythyrau santaidd, yr Hen Destament a'r Newydd, fel rheol eu ffydd a'u hymarweddiad. Y maent yn credu ac yn dysgu athrawiaeth y Drindod mewn Undod; yn mynegu fod y Tad yn Dduw, y Mab yn Dduw, a'r Ysbryd Glân yn Dduw; ac eto, nad oes tri o Dduwiau, eithr un Duw. Credant a dysgant fod pob dyn wrth natur yn bechad- urus, euog, a dinerth; ac nad all neb, heb ras Crist, wneyd dim sydd dda. Ac y maent yn ymdrechu, yn eu holl bregethau, i wneyd dynion yn deimladwy o'u cyflwr syrthiedig a cholledig. Y maent yn credu ac yn dysgu ddarfod i Fab Duw ddyfod yn Fab dyn, a marw yn iawn dros bechodau holl ddynolryw. Y maent yn ystyried Dincdod Crist, a'i iawn, yn wirioneddau hanfodol yr Efengyl. Credant ddarfod i Grist, trwy ras Duw, brofl marwolaeth dros bob dyn; a'i fod yn abl i achub oddiwrth bob pechod, yn y bywyd hwn, y neb sydd yn dyfod at Dduw trwyddo ef. Credant fod yn rhaid i ni gael ein hysbrydoli gan Ys- bryd Duw, mewn trefn i ni gael ein goleuo, ein by whan, ein dyddauu, ein puro, a'n gwneyd yn gymhwys i'r nefoedd. Dysgant mai trwy ymarferiad o edifeirwch a ffydd y mae pechadur yn dyfod i wybodaeth brofiadol a chadw- edigol o Dduw; a bod Crist wedi ei ddyrchafu ar dde- hculaw Duw, i roddi edifeirwch a maddeuant pechodau i bawb a alwant arno. Credant a dysgant y dylai credadyn gynyddu mewn gras; gogoneddu Duw yn y sefyllfa hòno mewn bywyd,