Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 2. Chwcfpor, 1848. Cyf. I. Y DEFNYDDIOLDEB O LYFRAU DA. Llyfrau ydynt drysorau o wybodaeth a phrofiad : cy- nwysant ba beth bynag ag y mae athrylith wedi ei ddyfeisio, llafur wedi ei ddatguddio, dysgeidiaeth wedi ei gasglu, a'r farn wedi ei drefnu. Llyfrau ydynt at'onydd Paradwys yn dyfrhau y ddaear; gwlith Hermon yn ffrwyth- loni y dyffrynoedd; arch yn cadw crochan aur y man- na, a llechau Moses ; cofgolofnau o lafur henafol; cewill yn cadw gwystlau gweddillion amser, fel na choller dim; îe, trysordy celfyddydau a duwioldeb. Dichon milwr heb arfau fod yn ddewr, ond nid yn fuddugoliaethus; a chrefftwr heb offer fod yn fedrus, ond nid yn eawog. Adwaenir Archimades wrth ei belen a'i rol. Gall pre- gethwr, heb lyfrau, feddu peth sel, ond ychydig o wybocl- aeth i'w reoleiddio. Yr oedd St. Paul ei hun, er mor ysbrydoledig, yn teimlo cymaint o angen am ei lyfrau ag ydoedd am ei gochl yn y gauaf. Amcanu at ddysgeid- iaeth heb lyfrau, ydyw, gyda üaniades, dynu dwfr mewn gogr. Y mae breintiau yr oes hon yn fawrion iawn mewn cydmhariaeth i'r oesau gynt, pryd yr oedd Jlyfrau mor brin a drud, ac felly allan o gyraedd y bobl gyffredin. Yr oedd llyfrfa fach yn costio etifeddiaeth fawr. Talodd Iarlles o Angou am gopi o Homiliau Haimon, ddau gant o ddefaid, pum chwarter o wenith, a'r un faint o ryg a miled. Ond yn awr, y mae y fath gyflawnder am brisiau mor resymol, fel nad rhaid hyd yn nod i'r gweithiwr tylotaf braidd yn y deyrnas fod hebddynt, wrth arfer gofal a chynildeb. Dewis llyfrau da sydd o'r pwys mwyaf. Galaethus meddwl fod miloedd o gyfrolau â theitl da iddynt, ond yn