Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T WINLLAN, Rhif 10.] HYDREP, 1897. [Cyf. L. EIN HORIEL. X.—Y PARCH. WILLIAM JONES. MUEDDIR ni i feddwl mai " Yr Hybarch William Jones " fuasai y penawd mwyaf pri- odol i'n nodion ar y gwrthddrych a ddar- lunir yn Ein Horiel am y mis hwn. Mr. Jones erbyn hyn ydyw y gweinidog Wesley- aidd hynaf sydd yn y Gogledd. Mae ei yrfa weinidogaethol wedi bod mor faith a llafurus a llwyddianus fel nad oes angen ini ei dilyn yn fanwl. Rhaid bodd- loni ar amlinelliad yn unig. Ganwyd ein gwrth- ddrych yn Mhlas Llan- elian-yn-Rhos, Chwef. i7eg, 1822. Ei dad ydoedd Owen Jones, mab John Jones, Highgate, o'r un ardal, a'i fam ydoedd Elizabeth, unig ferch William ac Ellen Evans, Bryn Morfudd, Llysfaen. Gwneuthurwr esgidiau ydoedd Owen Jones, ac arferai gadw nifer o weithwyr am lawer o flynyddoedd. Sym- udodd ef a'i deulu i drigiannu yn Mochdre pan nad oedd ein gwrthddrych ond pymtheg mis oed. Yr adeg hono Ysgol Llandrillo oedd y sefydliad addysgol pwysicaf yn yr holl wlad, ac yno, yn adeg Mr. James, yr athraw