Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN, Rhif 8.] AWST, 1897. [Cyf. L. EIN HORIEL. VIII.—Y PARCH. T. WYNNE JONES. |ff|R ydym y mis hwa ^A^ wedi myned tu hwnt ^* i Glawdd Offa i gyrchu darlun i'w ddodi yn eln Horiel, ond mae ei wrthddrych yn Gymro trwyadl, a chredwn y bydd ychydig nodion am dano yn ddyddorol i'n darllen- wyr. Ganwyd y Parch. Thomas Wynne Jones tua 48 mlynedd yn ol yn Brynsiencyn, g e r 11 a w Kyffin, heb fod yn nep- pell o Gonwy. Dywedir fod ei henafiaid wedi bod yn trigo yn amaethdŷ Brynsiencyn am saith cant o fíynyddoedd. Pan tua saith mlwydd oed aeth i fyw gydag ewythr iddo —Mr. Richard Parry, Talybont, Llanrwst. Cafodd ei gwrs gyn- taf o addysg ddyddiol yn Plasmawr, Conwy, ac wedi hyny yn Llanrwst a Bethesda; ac yn ystod y cyfnod yma cafodd y fraint o gael ei hyfforddi gan y seintiedig Mr. William Bridge, Conwy. Tra yr arosodd Mr. Jones yn Methesda, cymerodd y Parch. John Evans (Eglwysbach) ddyddordeb mawr ynddo. Cafodd o lyfrgell Mr. Evans aml i gyfrol i'w gynorthwyo yn ei efrydiau. Dyfalbarhaodd i ddiwyllio ei feddwl ac i gasglu gwybodaeth, a daeth yn ddefnyddiol iawn mewn amryw gylchoedd crefyddol.