Skip to main content

Y WINLLAN, Rh» l.]___________ IONAWR, 1897«____________[Cyf. L. Ein Jubili. ISPRBYN hyn mae y Winllan wedi bod am saith waith saith •iSfc mlynedd, fel y pren y sonia Llyfr y Dadguddiad am dano, " bob mis yn rhoddi ei ffrwyth," a phan y mae ein misolyn yn croesi trothwy ei ddegfed fiwydd a deugain, credwn mai nid anmhriodol ydyw ein gwaith yn udganu ei Jubili. Ychydig o'r cylchgronau Cymreig sydd yn gallu edrych yn ol ar dymor o wasanaeth gan feithed a thymor y Winllan. O'r lluaws misolion gwerthfawr a ddygir allan ar hyn o bryd yn arbenig ar gyfer pobl ieuainc, ni wyddom ond am un sydd wedi cyraedd oedran y cyhoeddiad hwn. Mae ei hyrwyddwyr cyntaf wedi marw, a'i dderbynwyr cyntaf erbyn hyn yn anaml; ac yn yr olwg ar y ffaith fod amser yn brysur wneyd hanes ei gychwyniad yn hen hanes, tueddir ni i ddefnyddio y cyfleusdra presenol i groniclo yr ychydig fanylion a ganlyn. Yn yr Eurgrawn am Medi, 1896, ceir atebion dyddorol y diweddar Barch. Lot Hughes i nifer o of^miadau a gyfeiriwyd ato ílynyddoedd yn ol gan y Parch. W. H. Evans. Yr atebiad a roddir i'r cwestiwn, " Pafoddy dechreuwydy Winllan ?" ydyw— " Yr oedd cyfarfod yn' Mhont-ar-dulais, ac yr oedd yn bresenol Thomas Jones, Isaac Jenlcins, a Lot Hughes ; a ni a wnae'hom ben- derfyniad i gael y Winllan am y fîwyddyn 1848—yr enw a phob peth am dani." Ond prin y mae atebiad Mr Hughes yn un cyflawn. Mae yn ymddangos y gellir olrhain trâs y Windan ychydig yn mhellach yn ol nag adeg y cyfarfyddiad yn Mhont-ar dulais. Yr ydym yn ddyledus i Mr D. Delta Davies, Tyddewi,—yr hwn, gyda llaw, a arferai ohebu i'r Winllan yn ei blynyddoedd cyntaf,—am y nodion a ganlyn o ymddyddan a fu rhyngddo flynyddoedd yn ol a'i ddiweddar dad-yn-nghyfraith, y Parch. Thomas Jones, 2Ì1,— Dr. Jones ar ol hyny—mewn perthynas i'r mater dan sylw :— " Dywedodd fy nhad yn-nghyfraitti,—' Rhyw ddydd yn y flwyddyn 1846, pan arfynhaith adref rhwng Llanstephan a Chaerfyrddin, tarawyd fi a'r drychfeddwl i gael rhywbeth yn fwy ei faint a mwy pwrpasol na'r Trysor i Blentyn.' * ' Pa le a pha bryd y bedyddiwyd * Y Trysor i Blentyn ydoedd y cyhoeddiad cyntaf ar gyfer plant a ddar- parwyd gan y Wesleyaid Cymreig. Dygwyd ef allan yn 1826, a pharhawyd i'w gyhoeddi hyd 1840.