Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN, Rbif 11.] TACHWEDD, 1896. [Cyf. XLIX. EIN HORIEL. XI.—Y PARCH. THOMAS JONES (c.) (ysgrifenydd dirwestol y dalaeth ddeheuol). jJP&IN gorchwyl pleserus y mis hwn ydy w cyf- lwyno i'n darllen- wyr ddarlun a bras- linelliad o un o weinidogion mwyaf cymeradwy perth- ynol i'r Dalaeth Ddeheuol. Mab ydyw ein gwrthddrych i John a Jane Jones, Peny- glog, ardal Pont- rhydygroes, yn Sir Aberteifi. Ganwyd ef Mai i6eg, 1851. Yr oedd ei dad yn flaenor parchus gyda'r Wesleyaid yn M h o n t r hydygroes. Cymerwyd ef yn glaf pan oedd Mr. Jones rh wng ch wech a saith mlwydd oed, a bu farw o'r darfodedigaeth cyn iddo gyraedd wyth mlwydd oed. Bu hyn yn golled fawr i'n cyfaill, oblegid yr oedd ei dad wedi arfaethu rhoi iddo addysg dda. Y mae efe yn diyledus i'w fam am gynghorion a rhybuddion a gweddiau fuont yn atalfeydd ar iei ífordd i fyned ar gyfeilliorn. Dechreuodd weithio i enill ei gynhaliaeth cyn cyraedd àeg