Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN Rhif 1.] IONAWR, 1896. [Cyf. XL1X. Cadeirwyr ac Ysgrifenwyr Gogledd a De. "Y^^RTH gychwyn cyfrol arall—y nawfed a deugain—o'r Winllan, òifíftÖ nis gallwn feddwl am amgenach ffordd i addurno y tudalen gyntaf o'r gyfrol newydd na thrwy ddodi arni ddarlun o'r gwyr " da eu gair " sydd ar hyn o bryd yn llenwi y swyddi uwchaf a berthynaut i Wesleyaeth Gymreig. Hugh Jones, John Evans (Eglwysbach), Edward Humphreys, Henry Pritchard—ni raid i'r pedwarawd wrth introduction i'r cyffredin o'n darllenwyr. Ers gryn amser mae Wesleyaid Cymru wedi dysgu "gwneuthur cyfiif mawr o honynt mewn cariad er mwyn eu gwaith,'' ac mae eu henwau erbyn hyn yn eiriau teuluul yn y naill dalaeth a'r lla.ll. Mae y mw}',afrif o'n darllen- wyr, ni gredwn, wedi cael cyfleustra i'w gweled a'u clywed, a thrwy hyny wedi cael mantais i ffurfìo syniad am " yx amryw ddoniau " y mae yr " un Ysbryd " wedi cynysgaeddu y brodyr hyu â hwynt. Hir y bo tymor eu gwasauaeth i achos yr Arglwydd yn ein plith. Gofal Mam. Gofal manwl, gofal tyner, Gofal perffaith a fedd hon ; Ei ffynhonell gyfrin-darddiol Sydd yn llifo dan ei bron ; Y mae gofal fel ei chalon, Yn llawn cariad pur a swynion, Ac nid oes all ladd ymdrechion Gofal mam. Gofal mam ar riniog bywyd Fel serch-angel tyner sydd ; Yn gwarchodi pob peryglon Rhag niweidio gwawr ein dydd ; Taena flodau gwynion cariad, Ar ein llwybrau ieuanc difrad, Hudol ini yw dylanwad Gofal mam. Gofal mam yn nawnddydd ieuenctid Fel y dydd yn dilyn gwawr, A'n canlyna, a'i drybelid Haul oleua lawer awr: Ac yn nghanol stormydd bywyd Ymabertha mam pob gwynfyd, Rhaid cael angau'i oddiweddyd Gofal mam. Gofal mam nidvw'n heneiddio, Ieuanc ydyw fel y wawr; A'r un faint a'i chariad ydyw Ac mae hwn yn fyd—byd mawr; Gofal mam—yn hyn mae bywyd Ei chariadus fron, a'i gwynfyd, Dodi heddwch wna ddedwyddyd, Gofal mam. Glan Tecwyn.