Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN Rhif. 12.] RHAGFYR, 1884. [Cyf. XXXVII. OLIYER GOLDSMITH. . ANWYD 01iver Goldsmith yn Pallas, swydd Longford, Iwerddon, Tachwedd 10, 1728. Mab ydoedd i'r Parch Charles Goldsmith, yr hwn, yn 1730, a symudodd o Pallas i Lissoy; ac yn y lle olaf y cafodd 01iver Goldsmith ei ysgol gyntaf, y^ hon a gedwid gan hen quarter master nodedig iawn. Pan yn wyth mlwydd oed cafodd y frech wen, yr hon a adawodd nodau dyfnion ac anuiddol ar ei wynebpryd. Wedi gwellhau, efe a anfonwyd i amryw ysgolion; ac yn y naill a'r llall o honynt ystja-id 01iver ieuanc yn un o'r bechgyn mwyaf stupid a welwyd erioed mewn ysgol. Yn 1745, anfon- wyd ef i Trinity Oollege, Dublin; ond ychydig a fyfyriai yno ; ei brif hyfrydwch ydoedd gwrando ar y cerddi a gyfansoddai yn cael eu canu yn yr heolydd. Bu allan o'r coleg fel truant am gryn amser ; dyna oedd dechreuad ei grwydiadau hirf aith yn ystod y blynyddoedd dylynol. Cymerodd ei radd o B.A. yn 1749, a bwriadai fyned i Lundain i astudio y gyfraith ; ond