Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN Ehif. 2.] CHWEFROR, 1884. [Cyf. XXXVII. JOHN HOWE. ^N niysg yr ysgrifenwyr duwinyddol dysgedig ag y bydd eii gweithiau mewn bri ac yn fawr eu dylanwad tra y bydd llenyddiaetli gristionogol yn y byd (a bydd byny hyd ddiwedd amser) mae yn rhaid enwi awdwr y Liinng Temple gyda dwfn barchedigaeth. Ganwydygwr mawrhwn ynLoughborougb. swydd Leicester, Mai 17, 1630. Ei dad ef ydoedd gweinidog y plwyf hwnw; ond gorfu iddo lfoi oddiyno drosodd i'r Iwerddon am weddio ar i Dduw gadw y brenin Charles yn y wir grefydd, am yr hyn yr oedd lle i ofni yn fawr. Tr oedd yr ystorm a gododd byn ar ei ben yn arswydus i'r hen weinidog duwiol; ond yn yr Iwerddon (ì ba le y cymerodd ei fab John gydag ef), efe a gafodd lonydd hyd amser y gwrthi-yfel yn 1641, pryd y dychwelodd ac yr ymsefydlodd yn Lancashire. Pan yn 17eg oed, ar ol cael addysg dda gartref, cafodd