Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN, Ehif. 6.] MEHEFIN, 1S83. [Cyf. XXXVI. WILLIAM PENK '(N o'r dynion rliagorol y breintiwyd eyfnod cytli- ryblus a chwyldroadol y rhan olaf o'r eilfed- ganrif-ar-bynitheg àg ef, ydoedd yr anfarwol William Penn, sylfaenydd Pennsyhania, un o'r rhandiroedd mawrion sydd yn gwneyd i fyny Unol Dalaethau America. Mab ydoedd i Syr William Penn, llyngesydd Prydeinig o fri ucbel, yr hwn a welodd gryn lawer o ymladd caled yn ei ddydd, ac a gyflawnodd wrhydri yn nghymeriad Jamaica odäiar yr Yspaenwyr, yn 1655. Cafodd Penn ieuanc addysg foreuol dda, yr hon a orphenwyd yn Christ Church, Oxford. Tn ol pob tebyg, yr oedd ei dad yn dysgwyl iddo droi ei olwg tua chyfeiriad swyddogaeth o dan y Llywodraeth; ond fe siomwyd yr hen wron yn ddirfawr trwy iddo fyned yn Quaker.