Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

288 Y WINI.IJLN 1752 derbyniwyd ef yn aelod o Gymdeithasfa'r Metho- distiaid. Wedi bod am beth amser yn cadw ysgol yn y Groeswen, Sir Forganwg, anfonwyd ef gan y Gymdeithasfa ar daith bregethwrol drwy Ogledd Cymru. Gwybu lawer ar y daith hon am flinfyd cenhadwr mewn oes lygredig; triniwyd ef yn enbyd ym Machynlleth, Pennal, Caernarfon, a lleoedd ereill; ond fel Panl, teimlai yn llawen yn ei orthrymder, oblegid bendithid ei lafur er dychweliad llawer. Wedi parhau yn bregethwr cynorthwyol ymhlith y Methodistiaid am gyfnod, ymunodd â'r Anibynwyr yn 1761. Er chwilio yn fanwl, methasom ddyfod o hyd i'w reswm dros newid ei enwad. Bu yn athrofa'r Fenni am beth amser, ac yn 1767 ordeiniwyd ef yn Weinìdog Rhaiadr Gwy a'r Cae Bach, ger Llandrindod, Wedi wyth mlynedd o wasanaeth, rhoddodd i fyny eglwys y Cae Bach, ac yn 1784 ymryddhaodd yn hollol o bob gofal eglwysig i'r diben o efengylu yn Sir Faesyfed. Gwnaeth waith mawr yn y Sir hon ; llafuriodd yn ddiorfifwys, plannodd lawer o eglwysi, a bu yn gyfrwng achubiaeth cannoedd o eneidiau. Bu hefyd yn byw ac yn llafurio yn Llangethen a thref Caerfyrddin; ond yn 1803 daliwyd ef gan lesgedd, ac ni theithiodd mwy- ach, a bu farw mewn tangnefedd mawr. Dyna fraslun o hanes yr emynnydd. Cawn bellach ddweyd gair amdano fel awdwr. Bi Draethodau. Parhaodd yr awydd am les ei gyd- ddynion yn wanc yn enald John Thomas ar hyd ei oes; a chynhyddai yr awydd fel yr eangai eì wybodaeth am gyflwr a pherygl moesol ei genedl. Ei awydd i oleuo a moesoli y werin anwybodus a drwg gyfrlfa amdano fel awdwr. Cyfieithodd wyth o draeth- odau bychain, a chyhoeddodd saith o gyfansoddiadau gwreiddlol. Ym mhlith yr olaf mae'r canlynol:— 1. "LJythyr o annerch at Ieuenctid Cymru, i geisio'r Arglwydd tra gellir eì gael Ef, yn awr ym mlodau eu dyddiau," &c. Trefecca, argraffwyd yn y flwyddyn 1777. 2. "Rhad Ras, neu Lyfr Profiad, mewn byr Hanes am Ddaioni yr Arglwydd tuag at ei wael wasanaethwr John Thomas (awdwr Caniadau Slon) o'i Febyd hyd yma," &c. Abertawe, argraffwyd gan J. Voss, 1810.