Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. lxxxiii.] TACIIWEDD, 1837, Llyfr VI. BUCHDRAETH CRISTI O N OGO L. phojlop ìLÄÎ3©¥G-l©Mc (Parhad tu dal. 292.) Cynhelid eisteddfod Augsburg, yn yr hon yr oedd yr Amherawdwr Siarl V. yn bres- ennol, yn y flwyddÿn ]530; aphennodid Melancthon i ddarparu crynodeb o'r eg- wyddorion gwrthdystiawl, fel y géllid ei os- od o fiaen eisteddfod Augsburg. Ac mewn ufudd-dod i'r cais yma, er nad heb ddagrau a gweddiau lawei-, dan y teimlad o'i wen- did, efe a gyfansoddodd yr hyn a elwir Cyffes Augsburg, yr hwn sydd yn cytuno J'n mhob peth, oddieithr mewn perthynas i'r sacramentau, a'r namyn un deugain Erthyglau, a Chyffes Westminster. Wedi darllen y Gyffes Wrthdystiawl, parottowyd attebiad iddo, wedi ei dynu allan o ysgrif • enadau y tadau; ac yn mhen tua phum tnis wedi hyn, cyhoeddwyd deddf, yn erchi i bob un a esgeulusai wrando yr offeren, gweddio ar Mair, y saint, a'r delwau, a chadw y gwyiiau, dan ysgymmundod yr am- herodraeth. Dangosodd Melancthon lawer mwy o ddewrfrydedd yn ystod yr eisteddfod, öac a ellid ei ddisgwyl oddiwrth ei nod- weddiad ef; ond wedi iddi fyned drosodd, efe a daâwyd yn isel iawn. Tra yr ydoedd yn y cyílwr isel yma, cyfarfu ef a Luther; yn nghyd a duwinyddion eraill, i ystyried pa beth a fyddai yn orau iddynt i'w wneyd yn eu cyfyngder presennol: ac wedi treulio peth amser mewn gweddi ar Dduw, oddiwrth yr hwn yn unig y gallent ddysgwyl cym- löorth digonol ar gyfer y wasgfa, efe a al- wyd yn ddisymmwth o'r ystafell, a sylwid ei fod yn ymddangos yn isel dros ben pan yn myned allan; ond tra fu allan, efe a ganfu rai o henuriaid yr Eglwysi Diwygied- ^g» a'u plwyfolion a'u teuluoedd. Yn eu -Wysg hefyd, yr oedd llawer o blant yn crogi wrth y bronau, tra yr oedd eraill heb fod ttenimawr hynach, yn taer weddio; yr byn J a alwodd eiriau y prophwyd i'w gof,' 0 en- au plant bychain a rhai yn sugno, y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a'r ymddialydd,' Wedi ei fywiogi drwy yr olygfa ryfedd yma, efe a ddychwelodd at ei gyfeillion, â'i feddwl wedi ei ddadlwytho, a'i wynebpryd wedi shioli. Luther a syn. i yn fawr wrth ganfod y cyfnewidiad maẁr a gymmerasai le yn ei ymddangosiad, a gof- ynai iddo, ' Pa beth yn awr ! pa beth a ddarfu i ti Philip, pan.ydwyt mor siriol ?' 1 O foneddigion,' medd Melancthon, * na ddigalonwn, canys myfi a welais ein nodd- wyr ardderchawg; a'r cyfryw ydynt, fel yr | ydwyf yn credu, y profaht yn anorchfygol i bob gelyn!' 'Attolwg,' eb Luther, 'pwy yw yr gwroniaid hyn, a pha le y maent?' 'Oh!' medd Melancthon, 'gwragedd ein plwyfolion, a'u plant bach ydynt, gweddiau y rhai a glywais pan fuais allan o'ch mysg; —a'r cyfryw weddiau oeddynt, fel yr wyf yn benderfynol y'u gwrandewir gan yr Ar- glwydd; canys yrn gymmaint ac na ddarfu i'n Tad nefol, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, erioed wrthod, na diystyru ein dy- muniadau, y mae genym le i fod yn hyderus na's gwna yn ein cyfwng hwn.' A gellir golygu y dywediad yma o'r eiddo, yn bro- phwydoliaethol o'r braidd; canys er i'r cwmwl ystormus barâu i grogi uwch eu penau, eto nid ymdorodd arnynt yn ys- tod y pymtheng mlynedd canlynol. Yn y ! cyfatnser, efe a dderbyniodd wahoddiadau oddiwrth Francis I. q Ffrainc, a Hari VIII, o Loegr, i ymweled a'u breniniaethau; ond er yr ewyllysiai ef gydsyniaw, yr Etholydd a'i hattaliai* Bu mewn dadleuon o natur dangnefeddol lawer gwaith â'r Pabyddion, ac a Phrotestaniaid Switzerland; ond ni bu y daileuon hyn mwy nac eraill o'u blaea 2 t ;