Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. líHIF. LXXX1I.] HYDREF, 1837. Llyfr VI. UCH-DRAETH CRISTiONOGOL MMLOIP flîflEILÄM©TH®M. Philip Mblancthon, cyfaill a chydweitli- ydd Luther, a anwyd yn nhref Bretten, yn Saxoni, yn y flwyddyn 1497. Ei dad George Schwartzerd, (canys nid yw Me- lancthon namyn cyfieithiad Groegaidd o'r enw teuluaidd) yr hwn a fu yn rhaglaw y fagnelfa yn Mrein-iarllaeth (Palatinatc) isaf y Rhine, oedd yn ddyn nodedig am ei gywreinrwydd celfyddydol, ei dduwioldeb diffuant, a'r moesolrwy&d manylaf. Dywedir hefyd am ei fam, ei bod yn wraig dra rhin- weddol; ei thad John Peuter, oedd Faer y dref, ac o herwydd trafferthion amrywiol Schwarteerd, iddo ef yr ymddiriedid gofal dysg Melancthon ar y dechreu. Mae yn ddîau y buasai rhyw gofion mab- aidd am Melancthon yn dra dyddorawl, j>e buasem yu feddiannol arnynt; gan y buasent yn foddion neìllduoi i ddadlenu gwawrîad tueddfryd un mor lawn o laeth tirìondeb dynol, fel y dywedid am dano, ' Mae dynion gonest a di ragfarn yn hoff o honaw, ac ni all, hyd yn nod ei wrthwyneb- wyr ei gashau;' ond, y gwylder oedd mor amlwg a hawddgarwch tymer yn ei nod- weddiad ef, a attaliai i'r cyfryw amgylch- îadau gymeryd lle yn aml yn ymddygiad- au y plentyn, ag a fuasent yn rhag-ddar- îuniad o'r dyn : eto ni allai ei wylder guddio ei gyrhaeddiadau ehang, a'i dalentau gor- wych yn hir : canys efe a fìaenorai yn mysg llëenyddion yr oes, pan ydoedd yn ieuanc iawn. Efe a dderbyniwyd yn aelod o Brif Athrofa Heidelberg yn y flwyddyn 1509 ; ac yn y íìwyddyn 1513, efe a raddi- wyd yn Athraw yn y Celfyddydau, pannad oedd onid tuag un-ar-bymtheg oed! Yn fuan wedi hyny, efe a ddaeth yn Ddarlith- ydd cyhoeddus yn Tubingen, Ue yr enillai fenwogrwydd a chlod nid ychydig am ei gydnabyddiacth ehang a llëenyddiaeth gyff- redinol, yn enwedig ei hyddysgrwydd yn .y prif awduron Groegaidd: ac mor fawr oedd ei enwogrwydd cyn ei fod yn ddeunaw mlwydd oed, fel y dywedai y dysgedig Erasmus,' Pa obeithion na allwn en coleddu am Philip Melancthon, yr hwn er nad yw eto ond bachgenyn sydd mor gyfarwydd yn yr ieithoedd dysgedig! Mor gyiiym ei ddychymyg ! Mor bur ei ymadroddiad ! Mor è'aug ei gof! Mor amrywiol ei ddar- lleniad ! Mor wylaidd a theiediw ei ym- ddygiad ! a'r fath feddwl tywysogaidd sydd ganddo !' Ac nid oedd ei gyrhaeddiadau ef yn gyffelyb i ryw ai-dyfiant cení-falch, yn cynnyrchu syndod mewn ieuenctyd; ond yn troi allan yn dra chyffredin erbyn cyr- haedd addfedrwydd oedran; canys tra yr oedd efe eto yn ieuanc iawn, yr oedd ei draetfciadau o'r fath ansawdd sylweddol, fel y buant dros amser maith, yn brif destun- lyfrau athrofáau yr Almaen ar eu hamryfal wyddorion, yn enwedig rhesym-ddysg,moes- ddysg, ac anianddysg. Yn mhen tua thair neu bedair blynedd wedi i Erasmus ddatgan y glod uchod iddo, y dywedai Luther am dano,' Nid yw efe ond bachgenyn, wrth ys- tyried ei oedran: ond pan feddylier am ehangder ei wybodaeth, yr hon sydd yn cyrhaedd pob math o lyfr o'r bron, rhaid addef mai ein gwr mawr, a'n hathraw ydy w. Mae yn nodedig, nid yn unig am ei gyd- nabyddiaeth â'r Lladin a'r Groeg; ond hefyd am ei wybodaeth fanyl-ddysg o hon- ynt: ac nid yw yn annghyfarwydd mewn llëenyddiaeth Hebreaidd ychwaith.' Nid yw yn debyg fod neb yn hysbys pa bryd ydachreuodd Melancthonbrofi pwysig- rwydd pethaudwyfol yn cael eu gwasgu ar ei feddwî. ' Ond v mae ynymddangos ddar- 2 P