Skip to main content

Y DRYSOEFA. Rhif. lxxxi.] MEDI, 1837. [Llyfr. VII. Y ©D' sywesArruB 'IMÄ^ M© KIMT, Edwari», Düc Kent, tad eîn tirion a'n bardderchog Frenhines Victoria, ydoedd «edwerydd raab i George III, diweddar Preniu Brydain. Ganwyd ef Tachwedd ^, l^ôT. Fe'i dygwyd ef i fynu yn fìlwr, ac nid öedd neb mwy prydferth yn ei wis'g filwraidd, a mwy medrus a pharod at ei arf- au nag ef yn ngorph y lluoedd Brytanaidd. Pan yn ddeunaw oed, fe'i hanfonwyd i Germani, ac a hreswyliodd yn Lunemhurg, ac weithian yn Hanover, hyd nes oedd yn agos i ugain oed. Oddiyno, efe asymmud- wyd i Genera, lie yr arosodd ddwy flynedd. J)ros yr holl amser hwn yr oedd ei dad yn rhoi iddo fil o bunnau yn y flwyddyn, yr hwn swm a ddodid yngofal ei Ljwiawdr, heblaw yninea a hanner yn yr wythnos a foddid iddo fel arian llogell. Ryw amser cyn dechreu rhyfel Ffrainc, pan oedd y cadíìaenor O'Hara yn Llywydd Gibralter, yn y nwyddyn 1790 a 1791, gos- ódwyd y Tywysog ieuanc hwn yn llywydd ar y 7fed Gadrawd o'r milwyr a elwid Fusi- lìers. Yn y swydd a'r sefyllfa hon, fodd ^ynag, yr oedd efe y pryd hyny yn lled an- öihoblogaidd. Tua diwedd y fiwyddyn 1791, symmud- wyd ef i Canada yn Ngogledd America, ac oddiyno i Kalifax yn Nova Scotia ; a tbrachefn yn ol i Canada. Yma fe fu yn fwy clodfawr, gwnaed cyfiawnder â diniw- eidrwydd ei ymddygiad, ac efe a gafodd ei anrhydeddu yn fawr gan bawb o'i gydnabod. Yna anfonwyd g:rchymyn o Brydain am iddo hwylio i'r India Orllewinol, ac ymuno â'r müwyr oedd dan Syr Charles Grey yn ymladd am ennill Ynysoedd y Pfrancod oddiarnynt. Yn yr ymosodiad milwraidd ar Ynvs Saint Lucia, er i'r mil- 1V.T)' gael eu gorch'ygu a'a tro't yn ol, eíe a ennillodd serchawgrwydd ei filwyr, ac a berchid yn fawr ganddynt oherwydd ei wrolder. Efe a wynebai y mwg a'r tân yn bersonol, er i'r Cadflaenor amryw weithiau ddymuno arno beidio gosod ei hun mewn cymmaint o berygl personol. Wedi hyny, efe a osodwyd yn Llywydd ar yr Amddiffynfa ddwys-ganlyniadol hono, Gibralter. Efe a gafodd lawn gorchwyl yn y Ue hwn, ac oni buasai ei fod o feddwl cryf, ac o ansawdd corphorol grymus, ni allasai ddyfod drwyddo. Yr oedd yno an- nhrefn mawr ymhlith y milwyr, yn benaf o herwydd fod yno gynnifer o dai Gwirod, a'r gwin mor isel ei bris. Byddai y milwyr yn chwilgyrn feddwon, ac yn torri allan yn y nos i ladratta a thorri tai y trigolion, fel nad allent gysgu yn ddiogel yn y nos, na rhodio yr heolydd yn ddiberygl, acheb grel eu anmharchu. Goddefid hyn i raddau belaeth gan y Llywyddion a fuasai yno o'i flaen. Y canlyniad o'r annhrefn hwn oedd, afiechyd, anufudd-dod i'r Penaeth- iaid, anfoesoldeb o bob math yn cynnyddu, hyd nes oedd y lle mewn mawr berygl o gael ei gymmeryd oddiarnirt. Ond gyda bwriad cjwir a ffyddlawn, yr hwn yn was- tad a ganfyddid yn ymdclygiadau y Ty- wysog hyglod hwn, gan ddirmygu yr ehv a'r manteision y rhai fuont o gymaint gwarthargymmeriad y Llywyddion a fu- ont yno o'i fiaen ef, efe a benderfynodd lanhau y tŷ-~carthu ymaith y ffieidd-dra, yr hwn a lechasai ac a gannyddasai yno ers blynyddóedd. Ond yn y gorchwyl pwysfawr ac an- hawdd hwn, efe a gyfarfu a'r hyn y mae pob diwygiwr yn gyfarfod ar y fath achlys- uron. Ni chynnorthwywyd ef gan yr aw- durdodau goruchel, a'r rhaia ddylasent fod 2 L