Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y ÖRYSORFA. —>XSK<— M.DCCC. XXXVI. Rhif. lxx ] HBMMW [Llyfr vi. LLOFFION 0 ddwy bregeth a bregethwyd gan y Parch. J. Hughes, Bont Eobert, wedi eu casglu wrth wrando, Gan D. E. " Canjs Mah y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid, Luc xix, 19," Wrth lefaru ar y geiriau hyn, mi sylwaf , I. Ar y Person a sonir am dano, ' Mab y dyn.' II. Y c'dyfodfa a briodolir iddo, ' Mab y dyn a ddaeth.' III. Negesau ei ddyfodiad, ' I geisio, ae i gadw yr hyn a gollasid.' I. Y Person, Mab ŷ dyn. Mae efe yn Fab Duw, ac yn Fab y dyn, Ynddo y mae Duwdod wedi ei uno a'r Dyndod: Duw a dyn yn un Person : Dyma Gyf- ryngwr aridas rhwng Duw a dynion. Oherwy*dd ei fod yn wir ddyn, gelwir ef yn yr Ysgnthyrau yn Had y wraig— Had Dafydd, &.c. Ond mynych y geilw ef ei hun Mab y dyn : yr hyn sydd yn ar- wyddocau ei fod ef yn ymhyfrydu yn y sefyllfa (fyfiyngolj a'i fod yn dra gos- tyngedig. II. Y ddyfodfa a briodolir iddo. Yr oedd y prophwydoliaethau a'r cys;,rodau dan yr Hen Destament yn dyweud ei fod ef i/n dyfod; ond Mab y dyn a ddaeth, medd yr Efengyl. III. Y negesau, a dybenion ei ddyfod- iad, * I geisio ac i gadw yr hyn a gollas- id.' Dyma y gwrthrychau ydaethefei'w ceisio ac i'w cadw, ' yr hyn a gollasid.' Dynion yw y gwrthrychau hyn. 1. Mae dyn yn golledig oherwydd ei fod dan gollfarn. Mae ei fywyd yn eiddo y gyfraith a droseddodd, ' Trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemn- iad.' 2. Y mae dyn yn golledig oherwydd ei fod ar goll. Nid >dyw yn y lle y rhowd ef. Nid ydyw gyda Duw, 'Cyfeiliornais fel dafad.' Y mae yn bnsio tua dinystr. Ac fel hyn y parha efe, byd oni ddel y gyí'raith o hyd iddo, a dywedyd wrtho' ' Ti yw y gwr,' ac yna delir ef. Fe ddaeth Mab y dyn, i'r byd, i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid. A dyma yw neges pregethu yr Efengyl,' i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.' Ceisio pechad- uriaid at Grist y Ceidwad, i'w cadw byth. Mae yr Arglwydd Iesu yn ceisio dynion 1. Attynt eu hunain, ' a phan ddaeth attoeihun;' dyma ddywedir am y mab afradlon. 2. At Grist, i gredu ynddo, ac i ymor- phwys arno. Llwyddiant y ceisio yw cael a chadw. Gair mawr yw y gair cadw. 1. Mae gan Grist hawl i gadw pechad- uriaid, y mae efe wedi marw a gwneud iawn dros eu pechodau. Ni allasai neb arall byth wneud hyn; 'gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni ali efe roi iawn drosto i Dduw, canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hyny a baid byth.' Ond efe yw yr iawn dros ein pechodau ni. Hwn a osododd Duw yn iawn. 2. Y rnae yn abl i'w cadw, « Canys rai a wn i bwy y credais, ac mae yn ddi- ammeu genyf ei fod ef yn abl i gadw yr hvn a roddais atto erbyn y dydd hwnw.' 1 Tim. i. 12. 3. Y mae yn ffyddlawn i gadw. « Ffydd- lon a chyfiawii yw efe, fel y meddeuo i ni ein pechodau,' loan i. 9. Esa. xi. 5, 4. Mae cadw tyrfaaneirif o golledigion wedi ymddiried iddo gan y Tad. ' O'r cwbl a rodJes efe i mi, na chollwn yr un o honynt.' 5. Mae cadw y rhai a brynwyd am eu llawn werth yn beth cyfiawn. 6. Mae yn eu cadw fel bugail yn cadw ei ddefaid. Efe yw y bugail da, yr hwn sydd v,'edi rhoi ei ein'ioes dros y defaid. 8 P