Skip to main content

Y DRYSORFA —»®«— M.DCCC. XXXVI. Rhif. lxix.] [Llyfr VI. TALFYRI.ft.D O BBEOETH A ysgrifenwyd wrth wrando ar y Parch, J. Elias, yn y flwyddyn 1820. ' Cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef; a thrwy ei gleisíau ef yr iachawyd ni," Esay liii. 5. Pan fyfyriom ar farwolaeth Crist, dylem gadw dau beth yn ein meddyliau : sef, 1. Mawredd y Person a ddyoddefodd. 2. Ar. faeth a chyngor Duw mewn perthynas i'w ddyoddefaint. , Gosodir marwolaeth Crist allan yn yr ysgrythyrau mewn tair golygiad; ac yn un o'r tair bob amser. 1. Fel Aberth—2. Fel Pridwerth—3. Fel Cosbedigaeth. Ae y mae tri o effeithiau neu ganlyniadau rhyfedd yn cael eu priodoli i farwolaeth Crist mewn cyferbyniad i'r tair golygiad a enwyd ; sef, yn 1. Cymmod. 2. Pryn- edigaeth. 3. Boddlonrwydd. 1. Fel yr oedd ei farwolaeth yn abertb, yr effaith oedd cymmod. 2. Fel yr oedd yn brid- werth, yreffaith oedd prynedigaeth. 3. Fel yr oedd yn gosbedigaeth, yr effaith oedd boddlonrwydd. Neu, mewn geiriau ereill, effaith aberth yw cymmod—effaith pridwerth yw prynedigaeth—effaith cosb- edigaeth yẅ boddlonrwydd. Yn y testyn golygir marwolaeth Cristfel cosbedigaeth. Pump o fatterion eglur, pwysig, ac an- hebgorol o angenrheidiol i bawb eu gwy- bod a'u deall. 1. Ein bod ni oll wrth natur allan o heddwch â Duw. 2. Fod yn anmhosibl cael heddwch heb ddyoddef y gosbedigaeth. 3. Nis gallwn ni ddy- oddef y gosbedigaetb a by w wedi hyny i fwynhau'r heddwch. 4. Fod Mab Duw, yr Ail Berson yn y Drindod sanctaidd, wedi eymmeryd ein hachos—ein natur— ein lle—ein pechodau—a'n cosb. ô. Yr effaith, y canlyniadau, a'r ffrwyth o gosb- edigaeth Crist, ydyw, heddwch a iachâd i ni. I. Yv ydym ni oll wrth natur wedi my- ned allan o heddwch â Duw. Oni buasai i "i droseddu ní buasai raid dyoddef cosbedigaeth i gael heddwch. Y mae ymrafael ddeublyg rhwng Duw t â dyn. 1. Y mae dyn yn elyni Dduw. 2. Y mae Duw yn elyn i ddyn. Sancteidd- rwydd yw yr achos yn Nuw, a phechod yw yr achos ynom ninnau. 1. Y mae Duw yn ei sancteiddrwydd yn elyn i ni'o herwydd ein pechodau. 2. Yrydym nin- nau yn ein pechodau yn elynion i Dduw o herwydd ei sancteiddrwydd. Gogon- iant i Dduw a gwarth i ni yw'r elyniaeth. II. Fod yn anmhosibl cael heddwch heb ddyoddef y gosbedigaeth deilwng i ni, oddiar dri rheswm. 1. Nid nwyd ddialgar yn y Iehofah tragywyddol yw ei ddigofaint, na'r achos iddo fod yn elyn i bechadur. Ond y mae yn anghyfnewidiol. 2. Y mae digofaint Duw yn tarddu oddiar sancteiddrwydd a chyfiawnder ei natur. (1) Y mae mor sanctaidd na all gymmodi a phechod (2) Y mae mor gyf- iawn na all beidio a chosbi pechod, a hyny i'r eithaf, Y mae Duw yn rhwyin o natur i gosbi pechod. 3. Oblegid haeddiant pechod yw mar- wolaeth, ' Cyflog pechod y w marwolaeth.' Pa bechod ? Att. Pechod pa fath bynag, Y mae'r holl bechodau canlynol medd yr Ysgrytbyr yn haeddu marwolaeth, Pob anghyfiawr.der, ánwiredd, cybydd-dod, drygioni, cynfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau, husting, athrodi, bod yn erlidgar, yn drahaus, yn feilchion, yn ymü'rostwyr, dychmygwyr drygioni, anufuddion i rieni, anlladrwydd, torwyr ammod, bod yn angharedig, yn anghym- modlon, ac yn annrhrugarogion. Y mae'r pechodau hyn oll (ac eraill) yn haeddu marwolaeth. Y mae pechod yn ddrwg anfeidrol wrthrychol, (h. y.) yn ddrwg anfeidrol o 2 L