Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. —»®«— M.DCCC. XXXVI. Rhif. lxviii.] â«f [Llyfr VI. (Parhád tu dalen!96,J III. Am ddiwedd y Mil Blynyddoedd. Mae yn ymddangos y bydd adfeiliad mawr ar grefydd tua diwedd y Mil Blyn- yddoedd. Nis gwyddoin am ddim gwell i ni i'w wneuthur dan y pen hwn, na chodi o'r Ysgrythyr, air yn air, yr hyn a ddywedir am ddiwedd y Mil Blynydd- oedd, ynghyd ag ychydig sylwadau eglur- haol ar rai o'r pethau mwyaf nodedig yn y brophwydoliaeth. ' A phan gyflawner y Mil Blynyddoedd, gollyngir satan allan o'i garchar,' Dat. xx. 7. Yn adn. 3edd o'r un bennod, dy- wedir pa fodd y bu iddo gael ei roi ym ngharcbar. ' Efe,' sef yr angel, 'a ddal- iodd—satan, ac a'i bwriodd ef i'r pydew diwaelod (dyma y carchar) ac a gauodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllai efe y cenhedloedd mwyach, nes cyflawni y Mil Blynyddoedd ; ac ar ol hyny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser.' Fe fu satan yn gauedig yn y carchar hwn am fil o flynyddoedd. ' Rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd,' Rhaidarfaeth a bwriad Duw : dyma ran o'r drefn, ' Ac efe a â allan i dwyllo y cenhedl- oedd y rhai sydd ymhedair congl y ddae- ar, Gog a Magog, i'w easglu hwynt ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd feJ tyw- od y môr,' Wedi i satan gael ei garcharu cyhyd, nid yw ei elyniaeth na'i wrthryfeJ ddim Uai; ond yn hytrach y mae efe megis wedi ffyrnigo, y mae yn myned all- an gyda brys mawr at y cenhedloedd y rbai sydd ymhedwar chwai ter y byd. 'I'w twyllo hwynt:' drwy ddallu eu llygaid a chael o hono hwynt i feddwl mai gweith- red dda yw gwneud rhyfel yn efbyn y saint; a pheri iddynt feddwl y* iiwydd- ant i gael crefydd allan o'r $yâ, er eu tragywyddol siomedigaeth. Fodd bynag, efe a lwyddodd i'w cael ynghyd yn Un mawr iawn, « rhif y rhai sydd fel ty wod y môr;' hyny yw, yn aneirif, fel y mae'r tywod yn aneirif. Wrth yr hyn y gwel- wn mor gyffredinol fydd y gwrthgiliad, ac mor liosog fydd y gwrthgilwyr y pryd hyny. Gofyna rhai, pwy sydd i'w feddwl wrth Gog a Magog. Ni a gawn hanes am Magog yn Gen. x. 2. ail mab Japheth oedd Magog, a brawd Gomer. Fe geir Gog a Magog gyda'u gilydd yn Ezec. xxxviii. a xxxix. Mae yn debygol y meddylir wrth Gog y llywodraethwr, nèu y penaeth; ac wrth Magog y bobl fydd- ont dan y penaeth hwnw. Hiliogaeth Magog a boblasant Tartary fawr, gwlad ëango du y gogledd i Asia, a rhan o Ewrop, yn cyrhaeddyd ýn ei hyd o'r gorllewin i'r dwyrain ynghylch pum mil o filltiroedd, ac ynghylch dwy fil a saith gant o filltiroedd o led o'r gogledd i'r de; y rhan fwyaf o honi yn bresennol a ber- thyna i Ymerodraeth Rwssia. Galwai yr hen Tartariaid eu hunain gynt yn Mogli, neu Magolineu Mungugli, hyny yw plant Magog, Mae Ymerodraeth y Tartariaid yn yr India ddwyreiniol yn cael ei galw Ymerodraeth y Mogul. Mae enwauam- ryw leoedd yn yr hen Tartari yn tarddu o'r geiriau Gog a Blagog. Mae hiliog- aeth Magog yr awr hon yn llywodraethu ar aq;os i holl Asia, a rhan fawr o Ewrop. Ond, oherwydd y dywedir, fod ' satan yn myned allan i dwyllo y cenhedloedd y rhai sydd yn mhedair congl y ddaear,' mae yn debygol y meddylir y bydd byddin- oedd satan yn niweddy Mil Blynyddoedd wredi eu casglu ynghyd o amrywiol iawn o genhedloedd y ddaear yn llu dirfawr, cyffelyb i'r hen Tartariaid, hiliogaeth 2 G