Skip to main content

Y DRYSORFA, M.DCCC. XXXVI. Rhif. lxiv] HJLILo Llfyr VI. Y FABCB. JOHH PBTBSS, TEAWSPYNYDD, Yr hwn a fu yn bregethwr llafurus a defnyddiol ymhlith y Trefnyddion Calflnaidd bedair blynedd ar ddeg ar hugain. John Peters oedd fab i Peter a Rebecca Jones o'r Wenallt, Plwyf Llangower: ganwyd ef Taeh. 20, 1779. Cafodd ei fagu gydag ewythr iddo yn y Bala, sef David Rowland, tad oedd hwnw i David Rowland o'r Llidiardau yn awr : cafodd ysgol dda yn ol ei sefyllfa, fel yr oedd yn lled hyddysg yn yr iaith Saesoneg. Treul- iodd amryw flynyddau yn moreu ei oes yn ol helynt y byd, ac ymollyngodd yn ol ei dueddiadau llygredig. Ei brif hyfryd- wch fyddai y bêl droed (yn ei thymor.) Unwaith gyda'r gwagedd hwnw, taflodd cymal yn ei droed o'i le, ac ni roddwyd byth mo hono fel y dylesid ei roddi; a dywedodd amryw weithiau, fod yr arwydd hwnw yn ei gorph i ddwyn i'w gôf was- anaeth Satan y buasai mor flyddlon yn- ddo, Ymrwymodd, pan ddaeth i oedran, yn y gelfyddyd o Sadler, gydag un o henur- iaid y Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala, sef Johu Davies; ac ar ol iddo ddyfod dan lywodraeth y gwr hwnw, y dechreu- odd ddyfod i foddion gras; ac o hyny allan bu llawer ymladdfa galed o'i fewn rhwng cydwybod a'i dueddiadau llygred- ig, a bu am ysbaid yn dyfod i wrando pregethiad y gair, ac ar ol hyny at ei gyfeilîion llawen a difyrus: byddai y pryd hyny rai piegethau yn gadael argraff ddwys ar ei feddwl. Clywais ef yn ad- rodd am dano ei hun, sef, pan glywai gyhoeddi Mr. Robert Roberts, Clynog, i fod yn y Bala, y byddai yn ymroi i fyw yn dda tan ddelai y gwr, ac y byddai yn öiethu ymollwng gyda'r ffrwd o lygradig- aetb am wythnosau ar ol pregeth y gwr uchod. Ar ryw nos sadwrn aeth i le a elwir Pant yr Onen, Plwyf Llangower, i wran- do y Parch. John Evans, New lnn, yn pregethu; a thebygol i Yspryd Duw ddywedyd mewn effaith wrtho y noswaith hono, hyd yma yr âi mewn gelyniaeth, ac nid yn mhellach : gwelwyd agwedd ac ymddygiadau tra sobr arno o hyny allan. Ymunodd yn fuan â'r gymdeithas neill- duol yn y Bala, a gellir dy wedyd iddo gael mynwes yr Eglwys. Yr ydoedd o gylch un ar hugain oed pan y cafodd y fraint o roddi ei ysgwydd dan yr arch : o herwydd amryw bethau ennillodd sylw amryw o'r cyfeillion crefyddol, ac yn en- wedig ei ddawn gweddi. Byddai amryẃ o'r Henuriaid y pryd hyny yn myned o'r Bala, ar nos Sabbath a nosweithiau er- aill, i'r cymmydogaethau cyfagos i gadw cyfarfodydd gweddio, megis Rich. Owen, Edward Evans, Robert Griffiths, (Oh ! wŷr anwyl rhagorol yn mysgy brodyr;) a byddent yn myned ag amryw o'r gwŷr ieuainc gyda hwynt, a John Peters fydd- ai un o honynt tra y bu heb helaethu ei derfynau yn y gwaith. Yr oedd dawn ac yspryd yr henuriaid uchod yn nodedig am faethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, a phan welent ryw un, neu rai a rhyw arwyddion fod defnyddiau ac awydd ynddynt i fyned yn mhellach, i geisio drygu'r gelyn diafol, byddent yn arfer pob moddion i'w dysgu yn ffordd Duw yn fanylach : nac ymadawed yr ys- pryd rhagorol hwn byth â henuriaid yr eglwysi yn ein gwlad. Rhyw foreu Sabbath galwodd yr hen gristion rhagorol hwnw, John Evans o'r Bala, am John Peters, a Thomas Owen, (o'r un lle y pryd hyny ond Adwy y Clawdd yn bresennol) a dywedodd wrth-