Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. JÌHIF. LVI.] AWST, 1835. [Llyfr v. HELÂETHRWYDD IAWN CRIST. y Si/lwiadau canli/nol ar helaethrwydd iawn Crist a gymerwyd allan o waith y Parch. John Dick, D. D. gweinidog cynnulleidfa yr Unol Gymdeithas yn Grey Friars, Glasgow; a phroffeswr Duwinyddiaeth i'rEglwys hanredol (Seceders) 1 Y mìe yn ofyniad o bwys, Dros bwy yr óffrymodd Crist ei aberth ? ae y mae yr attebion iddo yn amrywiol. Ilhai a ddadleuant iddo farw dros holl ddynol- ryw; ae ereiil, iddo farw dios y rhai hyny yn unig a roddwyd iddo gan y Tad. Ond yn ddiweddar, yr ydym wedi clywed ìlawer am athrawiaeth newydd, yr hon a gynwys nid yn unig i Grist farw dros holl ddynolryw, ond eu bod mewn eanlyn- iad i ei farwolaeth ef, yn cael maddeuant gwirioneddol. Nid y wir efengyl yw, y maddeua Duw (meddynt) er rnwyn Crist bechodau y rhai oll a gredant; ond ei fod eisoes wedi maddeu i bob gwr, gwraig a phlentyn, sydd yn fyw, neu a fydd mewn oesoedd dyfodol. Fe ymddengys yn gasgliad naturiol, y bydd pob dyn yn gadwedig ; ond i gadw rhag y camgym- eriad hwn, fe ein hyspysir, fod pob dyn wedi cael eisoes faddeuant, ae na wna y weithied hon 'o ras lesâd iddynt oni chredant hyny, Y mae y ffydd hon yn hawdd ei chael, mor hawdd a chredu fod jr haul yn dysgleirio ganol dydd ; o herwydd, os gwirionedd yw fod pob dyn wedi cael inaddeuant, nid oes eisiau egni i bender- fynu, gan fy mod I yn ddyn, fy mod o eu nifer; fe chwanegir yn wir, na bydd i ni fwynhau buddioldeb y maddeuant hwn, oddieithr ein bod nid yn unig yn credu, ond ein bod yn cael ein sancteidd- io trwy ein ffydd; ond y mae hyn yn myned yn mhellach fyth oddiwrth y wir efengyl,trwy wneuthurein eyflawn wared- igaeth oddi wrth ddamnedigaeth i ym- dybynu ar ein sancteiddrwydd ein hunain ae nid ar iawn Crist yn unig. Y fath bentwro gyfeiliornad,gwrthddywediad, a gwrthuni yw hyn ! Yma y mae genym faddeuant yr hwn nid yw faddeuant, o herwydd nid yw yn rhoddi dim diogelwch i ei berchenog; euogrwydd pechod wedi ei gymeryd ymaith, ac etto yn agored i ei roddi yn erbyn y pechadur ; gweithred o ddiogel- iad wedi myned heibio o ei ranef, pryd y mae cospedigaeth dragywyddol yn crogi uwch ei ben! Pwy a all dderbyn yr athrawiaeth hon, ag sydd wedi dysgu oddiwrth yr ysgrytb > yr ein bod yn cael ein ' cyfiawnhau ü'wy ffydd,' hyny.yw, bod maddeuant yn dilyn ffydd, ac nad jdyw yn myned o eì blaen? Pwy a all gredu fod pob dyn wedi cael maddeuant ag sydd wedi darllen yr ymad. roddion ein bod' wrrth naturiaeth yn blant digofaint;' a bod Duw ynddigllawn beu- nydd wi thynt; bod ' ei ddigoí'aint wedi ei ddatguddio o'r nef yn eu hcrbj-ti;' ei fod yn ' dyfod arnynt;' bod yr holl fyd yn euog o'i flaen ef ? Ephes. 2. 3. Salm 7. 11. Rhuf. 1. 19. Ephes, 5. 6. R.huf.3. 19. A fuasai yr ysgrifenwyr santiidd yn ilefaru fel hyn pe buasent yn gwybod fod pob dyn wedi cael maddeuant eisoes ? Ereill, y rhai a haerant ì Grrist farw dros holl ddynolryw, a eglurant eu medd- wl mewn dull gwahanol. Fe ellir dy wed- yd (mcddynt) iddo farw dros bawb, o herwydd, mewn canlyniad i ei farwolaeth ef, sefydlwyd goruchwyliaeth o ras, dan ba un y cyflewyd pob dyn; gwneir cyfam- mod newydd â hwynt, yn yr hwn yr addewir bywyd tragywyddol i'r cywir, yn lle perff'aith ufudd-dod ; a'r fath allu a roddir iddynt, fel, os iawu ddefnyddiarit, 2 G