Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÍÌHIF. T,V.], GORPHENÄF, 18-35. [Llyfr v. GOFIÄNT Y PARCHEDIG R IC H A R D L L O Y D , {Gynt) o"r Beaiimaris, Mon. (. Parhad tu Cafobd y brodyr foddlonrwydd yn fuan iawn yn Mr. Richard Lloyd, fod yr Arg* îwydd yn foddlawn i'w gwaith yn ei íinnog ef i bregethu; bu rhyw ddylan- wadau nertb'o! yn eanlyn rliai o'i bregeth- &u cyntaf, feì y raae rhai a'i gwrandawodd yn cofio, ac yn sôn am danynt hyd y dydd hwn. Yr oedd' e'i dduil a'i agwedd yn pregethu yn gymm-eradwy iawn gan y gwrandawyr yn gyffredinol, jn fnan arol iddo ddechreu pregethu; a pharhaodd felly, heb gwinmwl arno hyd ddiwedd ei oes ! Ni adawodd ef un hanes i ni mewn ysgrifen, am amgylchiadau ei feddwl trwy ei dymmor llafurus gyd a gwaith y wein- idogaeth; ond y mae llawer yn fyw, sydd yn dystion o fuddioldeb ei weinidog- aeth; a llawer wedi huno, a myned i'w gorphwysdra, a gafodd leshad mawrtrwy ei lafur ef. Bu gartref (ÿn Caerr gwlam) gyd a'i fam, a'i dâd ynghyfraith, yn agos i chwe blynedd ar ol dechreu pregethu, a'i holl ymddygiadau fel gwr ieuange yn sobr a gweddus iawn. Yr oedd ef yn barchus iawn gan ei dieulu, hiraethent yn fawr am dano, pan: elai oddi cartref ychydig ddyddiau, i bregethu. Yr oedd yn hynod am roddi cynghorion doeth, a buddiol, i'w gyfeillion, a'i gymmydogion, yn enwedig, i rai ieuainge. Ymddengys ei fod yn sobr, gweddus, a gwiiiadwrus iawn, yn agwedd ei feddyliau, a'i eiriau, fel gwr ieuange. Byddai yn dda i lawer o rai ieuaingc sydd yn proíl'esu crefydd y dyddiau hyn, ddilyn ei esampl. (Jrefydd a'i phethau oedd yn lienwi ei feddyliau, fel nad oedd ef a'i gyfeillion yn cael nemawr o flas ar ymddiddan, am bethau byd, na chnawd, lawer o amser ar ol dechreu proffesu. dal. 163.) 4 Yr oedd yn rhyfedd genyf (ebe efe) glywed hen frodyr yn cwyno o blegid bod eu meddyliau yn cael eu denu ar ol y byd, a'i bethau; yr oeddwn I y pryd hyny, yn teimlo fy hun yn eithaf marw- aidd i hyny : ond Och, cefais innau wybod eyn hir, am y clefyd a'i effeithiaü niweid- iol. Bu fy nau gyfaill W— R— a R— R— a minnau, dros dair Mynedd yn yr Eglwÿs heb ymddiddan un gairy'nghylch priodi, gan dybied y pryd hyny, ei fod yn bechod mawr i ni ymddiddan am y fath beth. Ond ryw bryd darllenais yngwaith hen awdwr duwiol, ryw beth ynghylch priodi, a'r agweddau a ddylai fod ar bobl ieuaingc wrth feddwl am y peth hyn; y dylent ystyried y peth yn ddwys a difrif- ol; a'i ddwyn fel achos pwysig yn fynych mewn gweddi ger bron Duw, i ofyn eì gyfarwyêdyd, a'i arweiniad ef. Ar ol hyny, dechreuais I, a'm dau gyfaill a enwyd o'r blaen, ymddiddan weithiau yn nghylch priodi: teimlasom duedd ynom yn fuan, i fyned i ormodaeth yn yr ym- ddiddan hyny; ond yr Arglwydd yn ei ddaioni, a'i ras, a'ri goruwch lywodraeth- odd ni, ac a'n cynnaliodd.' Yn fuan ar, ol hyn priododd ef fel y gwelwn yn ei eiriau ei hun. • Yìì y flwyddyn 1800, y I3eg ofis Mai, priodais Elizabeth Roberts, merch Mr. John Roberts o'r Garnedd-wen, plwyf Llanfair-pwll-gwyngyll, Sîr Fôri. Ar ol priodi, symudais o ardal Gwalehmai, i Beaumaris. Yn fuan ar ol i mi briodi, bu farw fy mam,' yr hon oeád yn aelod o'r Gymdeithas yn Gwälchmai yn ei blynyddoedd olaf. Yr oedd yr achos crefyddol ymhlith y Methodistiaid yn isel iawn yn Beanmaris, pan aeth Mr. R„ Lloyd yno i fyw. Nid 2 C