Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. liv„] MEHEFIN, 1835. [Llyfr v. COPIANT Y PÁRCHEDIG RICHARD LLOYD, (Gynt) <?V Beanmaris, Mon. (Parhad tu Y mae yn ymddangos, wrth rai côfanodau a adawodd Richard Lloyd ar ei ol mewn 'ysgrifen, ei fod ef wedi bod o dan argyhoeddiadau dyfnion, a thrallodau snawrion yn achos ei enaid, ac y'nghylch ei gyflwr, neu ei sefyllfa ger bron Duw: fel ÿ gallwn weled yn ei eiriau ef ei hun. * Dygodd yr Arglwydd fi yn ieuangc, attaf fy hun, fel yr afradlon gynt, Pan y dechreuodd efe weithio ar fy meddwl i fanylrwydd y'nghylch achos fy enaid, yr oedd fy euogrwydd yn ymgroni yn erchyll yn fy nghydwybod, a'm pechodau yn anwadadwy yn ymgodi yn fy wyneb, fel na allwn sefyll, ac nid oedd genyf ddim i'm cynnal yn yr olwg ar fy nghyflwr drwg ! Profais y gair sydd yn loan 3. 36, fel cenadwri awch-lym o'r Nef attaf, " Y mae digofaint Duw yn ares arno ef." Yn y cyfamser, aethum i wrando ar hen breg- ethwr duwiol, yr hwn a ddarluniodd fy achos, mewn cyffelybiaeth am gawod o wlaw yn disgyn ar wellt, rhai yn irion, a rhai yn grinion, y naill yn cael «u maethti, ond y lleill yn crino yn fwy o dan y gawod. Ofnais yn fawr rhag i mi grino mwy. ' Yr oedd yn amser difrifol iawn ar fy meddyliau y dyddiau hyny ; yr oeddwn yn llawn tristwch, ac ofnau, a'm hachos yn ymddangos i mi yn fwy dyrys, a thywyll bob dydd ! Tu a'r amser hyny, aethym i wrando ar wr duwiol, yr bwn a bregethodd ar ddammeg y mab afradlon. Effeithiodd y bregeth hono yn rbyfedd arnaf, er symud graddau o'm hofnau, a'm cysuro; teimlais ryw doddiadau grymus ar fy meddyliau yn hîr ar ol i mi wrando y bregeth hono. Sabbath arall dal. 131.) yn agos i'r amser hyny, aethym i Gapel Gwalchmai, i wrando pregeth; ar ol y bregeth canwydgair o Salm, sef, Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw, Lle y daw i'm help 'wyllysgar; Yr Arglwydd rydd i'm gymmorth gref, 'R hwn a wnaeth nef a daear. Llewyrchodd rhyw oleuni i fy meddwl, pan oeddynt yn canu, am ogoniant cref- ydd, yn fwy nag erioed o'r blaen: teim- lais ryw ddylanwadau rhyfedd ar fy meddyliau ; profais ryw ddylifiad yspryd- ol, a rhyw weithrediadau dwysion, effeith- iol, ac anorchfygol arnaf; a dygwyd lî i gael tawelwch a hyírydwch mawr! wedi hyny ymroddais i wrando ar y Method- istiaid,' &(;. Dygwyd ef trwy lawer o drallodau dyfnion yn ei feddyliau yn lled fuan i dawelwch mawr; lle y mae yr Argíwydd yn elwyfo, y mae ef yn iachau, ac yn gwneud ' Dyffryn Acor yn ddrwsgobaith.' Y mae efe yn arwain ei bobl heibio i Sinai i Galfaria; ac yn eu hysgwyd uwch ben uffern wrth eu cychwyn tu a'r nef? Nid hîr y bu ef ar ol hyn heb ymuno â'r Eglwys fechan oedd yn Gwalchmai. Yr oedd ef a'i ddau gyfaill mewn trallod mawr wrth glywedy pregethwyrynarfer y gair Eglwys, gan na wyddent beth oedd ei ystyr. ' Buom (ebe efe) amryw wythnosau heb gael deall y gair Eglwys. Ond yn y dyddiau hyny daeth pregethwyr o'r Deheiidir i'r wlad ; Dafydd Parry, Gwr parchus, o Sîr Frecheiniog, ac Ebenezer Morris, (yn wr ieuangc, y tro cyntaf iddo ef.) Dan bregeth Dafydd Parry, àâyéû