Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. uir.] MAI, 1835. [Llyfr v. COFIANT, Y PARCHEDIG RICHARD LLOYD, (G'ynt) oW Beaumaris, Mon. BywEDia yn yr Ysgrythyr Sanctaídd, 4 Y bydd y cyfiawn byth mewn coffad- wriaetb,' (Salm 112. 6.) ac y 'Byddei goffadwriaeth yn fendigedig,' (Diar. 10.7.) Y mae yn ddyledswydd arnom ni yn ein tynihor byr yn y byd, ddal i fynu goff'ad- wriaeth am Grist'nogíon enwog yn ein gwlad a'n hoes, y rhai a fuyn llafurus, a ffyddiawn, dros Dduw, yn eu dydd. E.r Jia ddylem geisiodangos eu bod hwy wrth natur yn well nag eraill ; na'u bod yn berffaitb, mewn daioni, a rhinwedd : etto dylem gadw coffadwriaeth am danynt, 1. Er anrhydedd Crìst'nogaeth, trwy ddangos beth a wnaeth grâs' Duw yn- ddynt, a chadw mewncôf y rhwinweddau sanetaidd oedd ynddynt, er gogoniant i Dduw yr hwn a wnaeth yn rbyfedd a hwy, yn ci ras anfeidroL Pechadur wedi ei achuh, eiadnewydôu, ei ddysgn, ei gynnal, a'i d<iefnyddio gan Dduw, ydyw un o'r rhyfeddodau penaf a alìwn weied yn y byd ! Gall darlìen am y cyfryw, fod er grym a chysur i lawer cristion gwan. 2. Gaìl coffadwriaeth am y cyfiawn enwog, fod er argyhoeddiad, a deffrôad i grist'nogion mewn enw, ond sydd yu gysglyd, ma'rwaidd, a ditfrwyth iawn; wrth eu cydmaru eu hunain a'r duwiol- ion enwog, sydd wedi myned o'u blaen hwy, gallant gael eu deffro, i weled, ac ystyried eu difî'ygion, a'u colliadau; a'u dwyn i hunan ymholiad, ac i ymofyn am well crefydd; neu, am adnewyddiad, a gwell agweddau yn eu crefydd: ac i weddio am râs i fod yn fwy flyddlawn, a ffrwythlawn, fel y rhai a goff'eir. 3. Gail Cofiant am rai defnyddiol yn eu hoes, yn yr Eglwys, fod yn foddion yn îlaw yr Arglwydd i ennyn yn rbyw rai •eraill awydd am gael bod yn rhyw offerynau yn Ilaw Duw, i wneuthur rhyw leshad i bechaduriaid, ac i fod er rhyw adeiladaeth, a cìiysur i'r Eglwys, yn eu hoes: wrth weled fod rhai gwaeì, wedi cael eu defnyddio i wneuthur gwaith mawr; rhai gweiniaid wedi cael eu cynnal mewn peryglon mawrion : a thrwy râs wedigorphen eu gyrfa mcwn Ilawen- ydd; yn y goiygiadau hyn gall eraiiî, sydd yn meddu egwyddor dduwiol, gael eu tueddu, a'u cynnyrfu i ddyrmmo cael bodyn offerynau, (er mor wael ydyntj, yn llaw yr un Duw, i wneuthur ẁỳw beth tu ag at ddwyn ymlaen yr un gwaith. Y mae weithiau ar faes y gwaed, filwyr ffyddlawn i'w Brenhiu tu ol i'r fyddin, o'r goiwg yn nechreu yfrwydr; ondpansyrthio enwogionoedd yn blaenori yn'yrymdrech; trwy arwydd oddiwrth y Cad lywydd, ac awydd yn eu mynwes i gynnal y fyddin mewn trefn er anrhyd- edd eu Brenhin, rhedant ymlaen i lenwi y bwlch, a wnaeth y gelyn yn wyneb y í'yddin. Y mae Angau yn torri bylchau yn ein byddin ; O na roddai y Penliywydd orchymyn i ryw rai ffyddiawn, gwrol, medrus, i redeg i'r bylchau ar frys ! Y mae bwlch mawr yn wyneb y fyddin yn Sîr Fôn ar ol gwrthrych y Cofiant can- lynol, galì y Penllywydd beri ei lenwi yn fuan, Richard Lloyd, ydoedd fab i William Lloyd, gŵr parchus, yn perchen etifedd- iaeth lied helaethj yn swydd Mon. Mam Richard Lloyd, ydoedd Jane, merob