Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSOEFA. Rhif. 526.] AWST, 1874. [Llyfr XLIV. CRYFDER AT WAITH YR ARGLWYDD. Anerchiad a draddodwyd i'r Myfyrwyr yn Athrofa'r Bala, Mehefin 5, 1874. GAN Y PARCB. HUGH JONES, LIYERPOOL. Fr Anwyl Gyfeillion,—Yn gymaint ag i ran o epistol Ioan fod yn faes llafur i chwi yn ystod y tymmor sydd wedi myned heibio, dymunwn gyfeirio eich meddyliau at ryw ystyriaethau sydd i'w cael yn y llythyr hwn. Cyfarchai efe y gwŷr ieuainc yr ysgrifenai atynt, fel rhai cryfion ; a nodai hyny fel ei reswm dros ysgrifenu atynt fel y gwna: " Ysgrifenais atoch chwi, wŷr ieuainc, am (neu oblegid) eich bod yn gryfion, a bod gair Duw yn trigo ynoch, a gorchfygu o honoch yr un drwg." Y mae yn amlwg fod y cryfder hwn yn un a gynnyrcliir gan dduwioldeb ]>ersonol dwfn ; oblegid edrychir arno f'el cymhwysder i gyiiawni y dyled- swyddau pwysig, ac i gyrhaedd yr oruchafiaeth fawr a osodir ger bron yn y llythyr. Y mae cryfder yn gym- hwysder at waith. Yi ydych chwi, fy nghyfeillion ieuainc, â'ch gAvyneb ar waith. Y mae genych Avaith mawr i'w gyílawni gyda golwg arnoch chwi eich hunain felrhai yn proffesu Crist— gwaith ag y mae yn anghenrheidiol wrth gryider i'w gyflawni; ond, heblaw hyny5 yr ydyclTchwi, fel fy hunan, wedi ymgymeryd â gwaith mawr y weinidogaeth—gwaith ag sydd yn ei ranau a'i gysylltiadau yn rhy fawr i ni, ie, gwaith a'n lletha hel) y cryfder ag y mae Ioan yn sôn am dano. Nid peth i'w ddibrisio ydyw nerth corflbrol; y mae yn gallaeliad gwerth- l'awr iawn at waith. Ac y mae ein hymgysegriad i Dduw i gymeryd i mewn ein cyrff. Yr ydym i roddi ein cyrff yn aberth byw, sanctaidd, a chy- meradwy gan Dduw. Dylem, gan hyny, ofalu am i'r aberth yma fod yn un gwerth ei gael. Nid ydym i'w foeth- f'agu ar un llaw; ac nid ydym, ar y 1Liav arall, trwy esgeulusdra ac arferion fi'òl ac afreolus, i'w anghymhwyso i fywyd o laf ur a defnyddioldeb. Rhywbeth gwerthfawr iawn drachefn ydyw meddwl cryí'. Y mae arnom eisieu meddyliau fel hyn i lenwi sefyll- fáoedd pwysig mewn byd ac eglwys— i fod yn arweinwyr mecìdyliau. Ac yr ydym wedi ein breintio â meddyliau fel hyn i arwain ein Hathrofa yn ystod y blynyddoedd sydd Avedimyned heibio. Ond y mae nerth meddwl i'w gael yn fynych ar wahân oddiwrth nertìi caric- tor ; a'r prydiau hyny ceir esiamplau o hóno yn troi allan yn allu peryglus a niweidicl iawn. Byddai yn dda cofio, mewn adeg ag y mae cymaint o duedd ynddi i addoli talent ac athrylith ar draul diystyru carictor, mai un o'r meddyliau galluocaf a grëodd yr An- feidrol erioed yw y cymeriad mwyaf melldigedig yn yr holl groadigaeth. " Yr un drwg " y w hwnw. Ond pan y mae nerth mecídwl a nerth cymeriad wedi cydgyfarfod, y maent yn gwneyd y dyn o werth annhraethol. Y mae meddyliau cryfìon iaicn, pa fodd bynag, yn lled anghyffredin; ac y ! mae llawer un yn goifod llat'urio o dan