Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. 525.] GORPHENAF, 1874. [Llyfr XLIV. ADFYWIAD CREFYDDOL. PREGETH A DRADDODWYD GAN Y PARCH. OWEN THOMAS, LIVERPOOL. (Parhâd o tudalen 210.^ Ni a awn rhagom yn awr i sylwi ar y peth arall a nodwyd genym oddiwrth y geiriau :— II. FOD CYSYLLTIA.D NEILLDUOL AC ARBENIG RHWNG TEIMLADAU POBL YR ARGLWYDD TUAG AT EI ACHOS, a'i AM- SERAU EP I BERI LLWYDDIANT ARNO : "Yt amser i drugarhâu wrthi, ie, yr amser nodedig a ddaeth : oblegid y mae dy weision yn hoíìì ei meini, ac yn tosturio wrth ei llweh hi." Y mae dynion yn dra thueddol, wrth sylwi ar un gwirionedd, i anghofìo gwirioneddau eraill a allant fod yn gysylltiedig âg ef, ac yn wir yn an- hebgorol er ei gyflenwi. Ac felly y cawn hwynt gyda'r gwirioneddau neill- duol a ddygir ger ein bron yn y testun hwn. Y mae rhai yn gwadu y bwriadau Dwyfol yn gwbl, o leiaf yn eu gosod i orwedd, yn hollol ammodol, ar deimladau ac ymddygiadau dynion; tra y mae eraill yn dadleu yn gryf dros y bwriadau tragywyddol, ac amserau neillduol eu cyflawniad, ond yn anghofio, os nad yn gwadu, fod unrhyw gysylltiad, yn yr ordeiniad Dwyfol, rhwng y cyflawniad hwnw â'u hym- ddygiadau hwy. Ond y mae y Bibl yn bendant yn dysgu y ddau wirionedd; y mae y ddau yn cael eu cydnabod yn ein testun ; ac yr ydym i dderbyn y ddau wirionedd i'n credo, yn gwbl an- nibynol ar bob gallu o'r eiddom ni i'w cysoni â'u gilydd, yn gwbl hyderus o'u cysondeb à'u giíydd yn eu cyd- gysondeb â'r dadguddiad Dwyfol. Di- chon mai ein perygl neillduol ni ydyw anghofio yr olaf, a myned i ryw ddys- gwyl yn ddychymygol am ymweliadau Dwyíol, pan y daw yr hyn a elwir genym ni yn amser Duw i hyny, pa íath agwedd bynag a fyddo arnom ni. Eithr y mae o bwys annhraethol i ni gofio, nad oes genym un sail i ddysgwyl ymweliadau Dwyfol ond yn y drefn Ddwyfol; ac mai y drefn hono ydyw, ein bod ni yn teimlo yr anghen am danynt, yn gweddio am eu caeL ac yn ymarfer yn gydwybodol â phob moddion a sefydlwyd gan yr Anfeidrol i weithio trwyddjnt. Ni a ddylem ystyried yn wastadol mai Bôd personol yw Duw, ac, felly, mai gweithrediadau person, ac nid gweithrediadau deddf, ydyw dylanwadau ei Ysbryd ef. Nid rhywbeth fel codiad a machludiad haul, fel trai a llanw y môr, neu fel cyfnewidiad tymmorau y flwyddyn. Y maey rhai yna yngwblannibynol arnom ni, ac nis gall ein teimladau na'n hym- ddygiadau ni effeithio dim arnynt. Ni wna y teimladau dw^saf, na'r gweddìo taeraf, beri iddynt ddyfod yn gynt; ae ni wna y diofalwch niwyaf beri iddynt oedi yn lnvy. Ond nid peth fel yna ydyw dylanwad grasol Ysbryd Duw. Person yw efe, nid deddf; un yn meddiannu teimladau ei hunan, ac un y gellir effeithio arno gan deimladau ; un y gellir ei foddhâu, un y gellir ei dristàu ; uu y gellir ei barchu, fel ag i