Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 524.] MEHEFIN, 1874. [Llyfr XL1V. ADFYWIAD CREFYDDOL. PREGETH A DRADDODWYD YN NGHYMDEITHASFA PONT MENAT, EBRILL 15fed, 1871, GAN Y PARCH. OWEN THOMAS, LIYERPOOL. Psalm cii. 13, 14: "Ti a gyfodi, ac a drugarhëi wrth Sion ; canys yr amser i drugarhâu wrtai, ie, yr amser nodedig a ddaetli. Oblegid y mae dy weisiou yn hollì ei meini, ac yu tosturio wrth ei llwca M." TJn o'r cwestiynau mwyaf dyrys ruewn athroniaeth ydyw natur y berthynas a all fod rhwng y meidrol a'r anfeidrol,— perthynas y lle neillduol y byddom ynddo â'r ëangder anfesurol sydd o'n namgylch ; perthynas yr amser presen- nol sydd yn myned trosom â'r parhâd annechreuol a diddiwedd, a elwir genym, tragywyddoldeb. Y mae yn amlwg nas gall y nieidrol mwyaf fod yn un ran o'r ant'eidrol; ac na byddai pa gynnydd bynag a ellid wneyd arno, fel y cyfryw, yn un dynesiad at hwnw ; tra, o'r tu arall, y mae mor amlwg, I dybygid, mai trwy ac oddiar y meidrol, j yr ydym ni, trwy ryw allu a berthyn | i'n natur, yn esgyn i'r syniad sydd | genym, anmherffaith fe ddichon, eto yr uchaf posibl i ni, am yr anfeidrol. Ond pa beth bynag ydyw yr anhaws- der cysylltiedig â pherthynas y meidrol I a'r anfeidrol megys drychfeddyliau, y j mae yr anhawsder yn llawer mwy, pan y deuwn at berthynas yr Anfeidrol, megys hôà personol, â'r meidrol. Er enghraifft: y mae perthynas Bôd tragy- wyddol âg amser yn hollol anamgyff- redadwy i ni. Y mae yn sicr nad ydyw yn bod mewn amser, nad ydyw yn ddarostyngedig i un o'i ddeddfau, nad ydyw yn derbyn unrhyw syniad trwyddo, ac nas gellir dylanwadu arno mewn un modd ganddo ; eto y mae mor sicr ei fod wedi bwriadu ar gyfer amser—ei fod yn gweithredu mewn amser—a bod blaenoriaeth ac olyniaeth o ran amser yn perthyn i'w weithred- oedd, a hyny nid yn unig fel y maent yn ymddangos i ac yn cael synio am danynt genym ni, ond megys ag y maent yn bod ynddynt eu hunain ae iddo ef. Ond pa fodd y mae hyn yn bod, mewn cysylltiad âg ef, sydd i ni yn ddirgelwch hollol. Meddylier, er enghraifft, am grëadigaeth y byd yma. Tybier fod rhyw un yn gofyn, fel y cawn ni y plant weithiau yn gwneyd, Paham na buasai Duw wedi crëu ybyd yn gynt? Yn awr, pa mor naturiol bynag y gallai y fath gwestiwn ym- ddangos oddiar safle amser, fe welir ar unwaith, ond dyfod âg oes y byd i gymhariaeth â thragywyddoldeb, y cyfodai yr un cwestiwn, o leiaf y bydd- ai yn llawn mor resymol ei ofyn, ped estynid yr oes hono yn ol filiynau o flynyddoedd, neu unrhyw nifer^en^aní o flynyddoedd posibl i'r meddwl dynol synio am danynt. Ond pa anhawsder bynag a all fod yn y cwestiwn hwn mewn ystyr arddan- soddol, y mae yn amlwg nad ydyw yr Ysgrythyrau sanctaidd byth yn ym- ddyrysu gydag ef, eithr yn defnyddio yn gwbl, hyd yn nôd mewn cysylltiad â'r Anfeidrol, y syniadau a'r iaith a arferir gan ddynion pan yn llefaru am eu bwriadau a'u gweithredoedd eu hunain. Ac felly y gwneir yn ngeiriau ein testun presennol: " Ti a gyfodi, ac a drugar-