Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 522.] EBRILL, 1874. [Llyfr XL1V. YR ETHOLIAD GWLâDOL DIWEDDAR. GAN Y PARCH. JOHN EYANS, ABERMEÜRIG.* Ryw ddiwrnod, ar ol yr Etlioliad Cyff- redinol a gymerodd Je yn Chwefror diweddaf, aeth dyn ar neges benodol i dŷ cymydog iddo, yr hwn oedd yn byw heb fod yinhell oddiwrtho. Yr oedd y ddau yn araaethwyr o ran galwedigaeth, yn proffesu crefydd gyda'r Methodist- iaid, ac yn aelodau o'r un eglwys. Ond yn anffodus, er fod y ddau yn yr ystyr- iaethau a nodwyd yn bur unol, nid oeddynt felly ddiwrnod yr Etholiad. Aeth Tomos yn Dory, ac arosodd Dafydd yn y wisg oedd ganddo yn y capel y sabboth cyn hyny. "Wedi y cyfarchiadau aTferol, ymddyddanwýd fel y canlyn :— Dafydd. Wel, Tomos, pa fodd yr ydych yn teimlo yn awr, wedi i'r person ddärfu i chwi ei fradychu gael ei gondemnio 1 Pan welodd Judas ddarfod condemnio ei athraw, bu edifar ganddo. Er iddo ef ei werthu er mwyn ei am- gylchiadau bydol, nid oedd yn meddwl * Yr oedd Mr. Evans, fcl y gwelir ar amlen rhifyn Rhagfyr, wedi addaw ysgrif i'r Drysorfa, cyn bod un golwg ara yr Etlioliad diweddar. Y pryd hwnw yr oedd efe, ysgatfydd, yn bwriadu anfon i ni erthygl dduẃinyddol. Ond wedi i'r Etholiad fyned heibio, ac ar ol y siomedigaeth a gafwyd yn ei sîr ef ei hun, ac mewn dwy o siroedd eraill, un yn Neheudir a-'r llall yu Ngogledd Cymru, efe a farnodd fod y syniadau a ddygir ymlaen gan " Dafydd" yn yr ymddyddan a geir yma yn gyfran o'r hyn y gellir yn awr eialw "y gwinonedd presennol," gwirionedd i'w dclwys ystyried ar yr amser presennol. Fe allni y meddylia rhai nad yw yr erthygl hon yn un mor ba'odol i gylehgrawn cyfuudeb crefyddol; ond fe ganfyddir fod yr awdwr yn trîn yr Etholiad yn ei gysylltiad â cbrefydd oddiar saíle Ymneiilduaeth. Os bydd rhywun neu rywrai yn aughyttuno â'r golygiadau a gyflwynir gan " Dafydd," ni bydd genym wrthwyuebiad i ganiatâu dadleuaeth ar hyn yn y Drysorfa, ond i hyny gael ei wneuthur uuwn ysbryd hynaws a digeeraeth.—Golygydd. y terfynai y gwerthiad fel y gwnaeth. Ÿr oedd efe yn dirgel gredu y gwnaethai Crist ddigon o wyrthiau i waredu ei hun, neu y cawsai ddigon o bleidwyr i'w amdditfyn, ac felly y cawsai yntau, ond iddo rîthgusanu, íbd drachefn yn ddysgybl, a chael y deg ar hugain arian yr un pryd. Ond wedi iddo weled fod. y person a fradychwyd ganddo yn cael y fath driniaeth, fod ei ddysgyblion yn prysur ymwasgaru, a bod ei actios gogoneddus yn debyg o ddarfod, teiml- odd gymaint nes y cynnygiodd yr arian yn ol; ac wedi gweled nad oedd neb yn cydymdeimlo âg ef, efe a aeth ae a ymgrogodd. A dybygwn i, os oedd rhywfaint o deimlad dros y capel, ei ddynion, a'i bethau, yn y rhai a ddarfu eu bradychu ddiwrnod yr Etholiad, eu bod yn bur ofidus eu meddyliau erbyn hyn wedi gweled y canlyniadau. Tomos. Yr ydych chwi, Dafydd, yn cymeryd pethaù fel yma yn rhy ddifrifol o lawer. Nid wyf ri erioed wedi deall fod rhyw bwys neillduol, o ran dyn nac egwyddor, nlewn ethol aelod i'r Senedd, dim tebyg cymaint, fel ag i beryglu dim a feddaf—ér ei fwyn. Ac yr wyf fi yn sỳnu eich bod yn arfer geiriau mor gryfion ar y fath achos. Dafydd. Digon tebyg eich bod, a bod llawer yr un fath â chwi. Yr ydych yn cofio beth a ddywedodd Iesu Grist am bethau tebyg i hyn : " Y neb sydd ffydd!awn yn y ileiaf sydd ffydd- lawn hefyd mewn llawer, a'r neb sydd anffyddlawn yn y lleiaf, sydd anffydd- lawn hefyd mewn llawer. Ac oni buoch ffyddlawn yn y mammon anghy^-