Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 521.] MAWRTH, 1874. [Llyfb XL1V. "YDWYF YR HWN YDWYF." Exodüs iii. 14': "A Duw a ddywedodd wrth Moses, Ydwyf yr hwn ydwyf. Dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel, Ydwyf a'm hanfonodd atoch." Yr ydym yn cael y geiriau mawreddus hyn yn gysylltiedig â'r hanes am am- lygiad rhyfedd Duw i Moses, pan y rhoddodd iddo alwad ac awdurdodiad i ddwyn Israel allan o'r Aipht. Yr oedd Moses ar y pryd yn anialwch Horeb, yn bugeilio defaid Jethro ei dad yn nghyfraith. Nid yw yn debygol y buasai rheswm dynol yn cyfeirio i'r fath le i edrych am waredwr i bobl Dduw o dỳ y caethiwed. Pan y ceir dynion yn myned i wneuthur ymgyrch- oedd mawrion a pheryglus,gwelirhwynt yn casglu adnoddau, yn codi byddin- oedd, yn ymgadarnhâu trwy gynghreir- iau, gan wneuthur cynhwrf a rhwysg dirfawr. Ond pan yr elo Duw i wneu- thur pethau mawrion, wele efe yn myned ymlaen yn berffaith ddidrafferth a digyffro. Pan yr oedd byd, ie, cyn- nulleidfa o fydoedd, i neidio allan o ddim, nid oedd raid i Dduw ond gorchymyn, a dyna y grëadigaeth faith ar unwaith yn ymddangos. Pan yr oedd eisieu i haul gyfodi, a goleuni i lewyrchuo dywyllwch, "Duw a ddy- wedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu." Ac yn awr, a ydyw y genedl allu- ocaf ar y ddaear i'w darostwng, a chen- edl orthrymedig i'w rhyddhâu a'u dyrchafu? Geilw Duw, nid ar ben- rhyfelwr enwog yn blaenori byddin o íü o filoedd, ond ar hen ŵr pedwar ugam oed, llariaidd ei wêdd, ac afrwydd ei ymadrodd, gyda'i fugeilffòn yn ei law, yn nghanol gỳr o ddetaid mewn anial- wch mynyddig. Gallasem ni feddwl pe ceisiasid Moses ddeugain mlynedd yn gynt, y buasai efe yn llawer cy- mhwysach nag yn awr at y gwaith y gelwid ef iddo. Y pryd hwnw, cawsid. ef yn llŷs yr Aipht, yn uchel ei fri, a dewr ei ysbryd, ac wedi cyfoethogi ei feddwl â holl drysorau doethineb dyn. Ond y gwir ydoedd ei fod ef yno yn rhy anaddfed i weithredu gweithred- oeäd Duw. Yr oedd raid iddo fyned i brifysgol arall, ysgol darostyngiad a neillduaeth yr anialwch, cyn gorphen ei dymmor addysg, a'i lawn ddarpar i ymgymeryd â dyledswyddau ei swydd- ogaeth bwysig. Yr oedd efe yn llŷs Pharaoh mewn lle gwych i ddysgu llywodraethu; ond yr oedd raid iddo ef eto ddysgu gwasanaethu, hunanym- wadu a dyoddef, cyn y buasai yn gy- mhwys ddeddfwr a thywysydd IsraeL Yno, yn mynydd Horeb, wele Moses yn bresennol, er ei syndod aruthr, yn gweled perth oedd o'i flaen, " yn llosgi yn dân, a'r berth heb ei difa;" ac wele, er ei syndod mwy, y berth yn dyfod yn lleisiol yn gystal âg yn danbaid. Dyma leferydd goruwchnaturiol, llais yr Ar- glwydd Dduw, o ganol y tân, yn ei gyf- arch wrth ei enw, ac yn ei wneyd yn hysbys o gydymdeimlad tosturiol Duw â'i bobl gystuddiedig yn yr Aipht, a'i benderfyniad i'w gwaredu yn ebrwydd, a hyny trwy law Moses fel ei was a'i genadwr. Ond yr oedd Moses yn awr yn egni'ol yn ceisio ymesgusodi rhag y fath wasanaeth. Yr oedd efe gynt, pan yn yr Aipht, yn llosgi gan awydd i waredu ei frodyr; ac efe a gynnygiodd ar y gwaith o hóno ei hun, pryd yr oedd amser Duw eto heb ddyfod. Ond yr oedd dysgyblaeth y deugain mlynedd neill-