Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CXCI.] TACHWEDD, 1862. [Llyfr XVI. feíírjtfòHU, CRIST YN BYW YN Y CREDADYN. GAN Y PARCH. HUGH JONES, IEUAF, LLANERCHYMEDD. "Mi a groeshoeliwyd gyda Christ, eithr byw ydwyf; eto rtid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a'r hyn yr ydwyf yr awrhon yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy tíydd'Mab Duw, yr hwn a'm carodd ac a'i dodes ei hun drosof ii.'' Galatiaid ii. 20. Vn neclireu yr adnod hon, y mae Panl yn egluro pa beth a feddyliai wrth farw i'r ddeddf yn yr adnod o'r blaen. " Can- ys yr wyf fi," meddai, "trwy y ddeddf wedi marw i'r ddeddf, &c." Yr. wyf wedi marw iddi' yn yr ystyr o feddwl cael bywyd trwyddi; ac nid yn unig hyny, ond yr wyf wedi marw iddi yn yr ystyr yr oedd lii yn hawlio fy marwol- aeth, ac y mae y farwolaeth hono wedi ei dwyn oddiamgylch trwy offerynoldeb y ddeddf ei hunan. Pwrpas mawr deddf Moses, o'r hon yr oedd y ddeddf foesol yn rhan, ydoedd, bod yn athraw at Grist —cydgau dynion dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i'r rhai sydd yn credu. Trwy eu cau i fyny dan bechod, ac o dan dded- fryd marwolaeth o'i herwydd, yr oedd hi wedi ei hamcanu i addfedu eu medd- yliau i dderbyn eu bywyd yn rhad trwy tfydd Crist. Yn fy amgylchiad i, fel pe buasai yr Apostol yn dyweyd, y mae hi wedi cyrhaedd ei hamcan. Yr wyf fì trwy y ddeädf wedi marw i'r ddeddf. Gan mai trwy ei hofferynoliaeth hi y dygwyd hyn oddiamgylch, byddai fy ngwaith yn dychwelyd yn ôl ati—yn cefnogi ar- ferion ac yn cynnal i fyny syniadau a rhagfarnau Iuddewig, yn milwrio yn un- iongyrchol yn erbyn ei hamcan; ac felly byddwn, nid yn unig yn dibrisio gras Duw, ond hefyd yn droseddwr o'r ddeddf ei hun (adn. 18). Pa fodd yr oedd wedi marw i'r ddeddf ì Dyma yr ateb,—" Mi a groeshoeliwyd gyda Christ:" yr oedd ei melldithion yn ormod i mi allu eu dyoddef—ei gofynion yn rhy ëang a manwl i ini allu eu cyfiawni: anobeith- iais am fywyd trwyddi. Yn y cyfyng- der yna, aethum at Grist—credais yn- ddo: trwy gredu aethum yn un âg ef. Yn ei farwolaeth Ef bum innau farw— yn ei groeshoeliad Ef fe'm croeshoel- iwyd innau. Bum farw i'r ddeddf yn ei farwolaeth Ef: ynddo Ef dyoddefais ei melldithion, ac ynddo Ef cyfiawnais ei holl oíynion. Y mae yr un peth yn cy- meryd lle eto yn amgylchiad pob pech- adur a gredo yn Nghrist. Y mae yn colli ei fy wyd ymhob man nes y delo at Grist, ond trwy gredu ynddo Ef y mae yn caeí trwydded i ddyweyd yn ngeiriau PauJ, " Mi a groeshoeliwyd gyda Christ," Y mae ei farwolaeth oruchel, yn ei he- íi'eithioldeb a'i rhinwedd, yn eiddo iddo. Fel canlyniad anghenrheidiol i hynyma y mae yr hyn a nodir gan yr Apostol yn y rhan nesaf o'r adnod yn cael ei ddwyn oddiamgylch: "Eithr oyw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi;" neu, fel ý myn rhai ddarllen y geiriau,—^Eithr nid myfi sydd yn byw mwyach, ond Crist sydd yn byw ynof fí. Yr un undeb ag sydd yn sicrhâu marw- olaeth Crist yn eiddo iddo ef sydd hefyd yn sicrhâu ei fywyd yntau yn eiddo i Grist. "Nid myfi sydd yn byw mwy-