Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 0X0.] HYDREF, 1862. [Llyfr XVI. Wmtfyoìim. MYNED YMLAEN GYDA CHREFYDD YN FFORDD I BEIDIO MYNED YN OL GYDA HI. GAN Y PARCH. JOHN DAVIES, LLANDYSUL. HEBREa.ro vi. 1—3: "Am hyny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, i athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn dragywyddol. A hyn a wnawn, os caniatâ Duw." Wbdi i'r Apostol yn y bennod flaenorol ddangos i'r Hebrëaid nad oeddynt wedi gwneuthur y cynnydd priodol mewn crefydd, yn yr adnodau uchod annoga hwy i ymdrechu myned ymlaen: myn- ed ymlaen mewn gwÿbodaeth a phrof- iad ysbrydol, a myned ymlaen ymhell —"at berffeiihrwydd" Ystyr y gair ymadrodd yn yr adnod flaenaf ydyw athrawiaeth neu ddysgeidiaeth. Ystyr lythyrenol y frawddeg lle y mae y gair yma ynddi, dybygid, yw,—"Ani hyny, gan roddi heibio gair y dechreuad o Grist;" hyny yw, elfenau symlaf y ddysgeidiaeth am Grist. Geilw yr Apostol yr ymadrodd yma, yn y bennod flaenorol (adn. 12), yn "egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw." Y gair egwyddorion yn yr adnod dan sylw, a olyga, yn y Testament Newydd, yr el- fenau o ba rai y mae unrhyw gorff cyf- lawn yn cael ei wneyd i iyny; megys, Uythyrenau yn gwneyd i fyny eiriau,^ a geiriau yn gwneyd i fyny iaith gyflawn. Ac yn unol â'r ystyr yma, mae yn deb- yg, y mae i ni gymeryd y gair «ymadr rodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist;" *ef elfenau symlaf y grefydd Gristion- ogol—^A B C crefydd, y rhai a ddysgir i blant o ran eu sefýllfa grefyddol. Ar- wydda y gair a gyfieithir "awn rhag- om," yn y cyflredjn, cario neu gludo— dwyn beichiau a chario croesau. Ac yn y fan yma yn unig yn y Testament Newydd, mae yn debyg, y defnyddir ef yn yr ystyr o fyned yínlaen; er dan- gos, dybygid, yr ymdrech a ddylid wneyd i fyned ymlaen. Dylid ym- drechu mýned at berffeithrioydd, fel cludo beichiau a dwyn croesau. Un- waith y mae y gair sydd yma am berffeith- rwydd yn y Testament Newydd heblaw yn yr adnod hon,—^yn CoL iii. 14, yn yr ymadrodd, "Yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd." Ystyr y gair ydyw perffeithiad, gorpheniad—elfenau gwa- hanol unrhyw beth wedi cael eu gospd at eu gilydd, i wneuthur un cora cyf- lawn o honynt; felly, dybygid, yn yr ymadrodd a ddyfynwyd. Y perffeüh- rwydd y sonia yr Apostol am dano yma, mae yn debyg, yw athrawiaeth yr ef- engyl, yr hon y mae cariad yn clymu ynghyd ei holl ranau, nes ei gwneutb> ur yn un gyfundrefn ogoneddus, fel y gwnai y gwregys rwymo gwisg- oedd llaesion a rhyddion y Dwyreiniaid yn un wisg gyffredinol iddynt; neu fel y morter yn clymu ynghyd y meini yn Lmur, nes eu gwneyd yn un adeilad rdd. Yn yr un ystyr hefyd, gellid meddwl, y defnyddia yr Apostol j gair perffeithnoyddyn yr adnodnoiL Yr un peth a feddylia wrth y myned