Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Ehif. CLXXXIX.] MEDI, 1862. [Llyfr XVI. %mfytsìm. PWYSIGEWYDD AC ADNÓDDAU SWYDD GWEINIDOG YR EFENGYL. CYNGHOR A DRADDODWYD GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN HUGHES, LIVERPOOL.* "A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?—Nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain—eithr ein digonedâ ni sydd o Dduw, yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinid- ogion cymhwys y testament newydd." 2 Coedíthiaid ii. 16, a iii. 5, 6. Mae agos holl ddrygau y byd hwn yn codi oddiar fethu osgoi peryglon dwy ochr; y peryglon sydd yn codi oddiar anystyriaeth a dideimladrwydd ar y naîll law, ac oddiar lwfrdra a digalondid ar y llaw arall. Y raae eich defnyddiol- deD chwi, fy mrodyr, yn gystal â'r eiddof fy hun, yn ymddibynu i fesur mawr ar eich gwaith yn gochel drygau y ddwy ochr hyn. Yn yr ymadroddion a ddarllenwyd o eiddo yr apostol Paul, ni a'i gwelwn ef yn cadw yn glir o'r ddau tu. Ar y naill law, y mae teimlad o fawredd ei swydd a'i waith yn peri iddo bryderu a dywedyd, "Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn? Nid ydym yn ddigonol o honom ein hunain." Ac ar y llaw arall, y mae golwg ar gyflawn- der ei adnoddau yn peri iddo ymgysuro a dyweyd, "Ein digonedd -ni sydd o Dduw, yr hwn a'n gwnaeth ni yn wein- idogion cymhwys—(neu ddigonol) y tes- tament newydd." Gallem ddarllen, " A phwy sydd gymhwys i'r pethau hyn? Nid o herwydd ein bod yn gymhwys o honom ein hunain—eithr ein cymhwys- der ni sydd o Dduw, yr hwn a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymhwys." * Y Cynghor hwn a draddodwyd yn Nghymdeith- asfa Bangor, Medi 11, 1844, ar yr aciüysur o or- deiniad y Parchn. John Jones, Moriah, Sir Ddin- bych; Robert Hughes, Conwy; ac OwenThom&s, Llundain. Cafwyd yr hyn a argreffir ynia allan o lawysgrif Mr. Hughes ei hun, wedi ei gymharu â'r hyn a ysgrifenwyd ar y pryd gan Ysgrifenydd y Gymdeithasfa. Dylai y ddau fath deimladau hyn föd ymhob cenad dros Dduw. Un math ydyw teimladau o ofn a phryder, a'r llall yw teimladau o hyder a chysur. Mae mawr- edd y gwaith, pwysigrwydd y swydd, a difrifoldeb yr effeithiau, yn peri ofn a gwylder, pryd y mae urddas ac anrhyd- edd y gwasanaeth, a chyflawnder dihysp- ydd yr adnoddau ya. peri hyder a lla- wenydd. Ni ddymunem i chwi byth, fy mrodyr, golli y teimladau Iryn o'r ddwy ochr, rhag i chwi ruthro neu ymchwyddo ar y naill law, neu lwfrhâu a digaloni ar y llall. Mae ysgafnder a llwfrdra— y naill a'r llall—yn ddianrhydedd i'ch Meistr. Na fyddwch ysgafn a rhyfyg- us; y mae eich gwaith yn fawr: na fyddwch lwfr a digalon ; y mae eich Arglwydd yn dirion. Galwaf eich sylw, gan hyny, at bwysigrwydd eich swydd, ac at adnoddau eich swydd. I. PWYSIGBWYDD Y SWYDD. Mae yn beryglus fod pwysigrwydd gweinidogaeth yr efengyl yn colìi o olwg y rhai sydd yn ymgymeryd â hi. Nid felly yr oedd gyda yr apostol Paul. Nid oes dhn yn amlycach ynddo ef na'r syniadau uchel a difrifol a lochesid gan- ddo am weinidogaeth yr efengyl. Khy- feddai lawer i'w fath ef gael ei osod y nddi. " Yr ydwy f yn diolch," meddai, " i'r Hwn a'm nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif ,yn flyddlawn, gan fy ngosod yn y weimd- ogaeth; yr hwn oeddwn o'r blaen y|i R t