Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXXVIII.J AYY8T, 1862. [Lltfr XVI. S.tmtíjotat, TRUGAREDD DUW. GAN Y PARCH. JOHN DAYIE3, WITTON PARK, DURHAM. Mae mawredd a daioni yn cydgyfar- fod yn y Duwdod. Ardderchogrwydd a thrugaredd ydynt yn cartrefu ynddo ef. Byddai y Pagauiaid gynt yn arfer llwytho eu duwiau gau âg enwau a theitlau mawrion, a hyny er rhoddi mawredd arnynt; ond mawredd han- foò Duw sydd yn gosod mawredd ar ei holl enwau a'i deitlau Ef. " Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn ; ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau." Pob mawredd a gogoniant sydd yn perthyn i Dduw, ei hanfod yw y ffynuon o hono. Trugaredd Duw sydd un o hriodol- eddaii gogoneddus ei natur, ac un o'r amlygiadau rhyfeddaf ag y mae yn wneuthur i ni o hono ei hun. Graslon- rwydd a daioni einatur ydyw, a'i barod- rwydd rnawr i dosturio wrth y truenus, maddeu iddo, a'i lenwi â daioni. Mae y Bibl yn rhoddi i ni olwg ar- dderchog a mawreddig o Dduiv yn ei dru- garedd a graslonrwydd ei natur.—Mae yr Arglwydd fel yn ymddyrchafu i ddangos i ni ei drugaredd a'i ras. " Am hyny y dysgwyl yr Arglwydd i drugarhâu wrth- ych ; ie, am hyny yr ymddyrchaif i dos- turio wrthych." Pan ddaeth i lawr i gyfarfod Moses ar Fynydd Sinai, fe gy- noeddodd ei enw, gan ddywedyd, " Je- hofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd—yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, ac heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn." Mor fawreddog ac ardderchog hefyd yw iaith y prophwyd Micah, pan yn rhocldi gol- wg i ni ar drugaredd y Duw rnawr! "Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddeu anwiredd, ac yn mynecl heibio i anwir- edd gweddill ei etifeddiaeth ? Ni ddeil efe ei ddig byth, am íbd yn hoff ganddo drugaredd." Maddeuant pechodau yw y fendith fawr mae y prophwyd yn nodi yma, a thrugaredd Duw yw y ffynnon anhyspyddadwy o honi. Pechod sydd yn achos o drueni; trugaredd sydd yn achos o faddeuant. Mae Duw yn madd- eu, nid am ein bod ni yn haecldu, ond am ei fod ef yn drugarog ; nid am fod i id hawl i'r fendith tnvy deilyngdod personol, ond am ei fod ef yn chwen- nychu tosturio. Mae yn hoff gan Dduw drugaredd, ac am hynj- mae yn "Dduw parod i faddeu." Mae y prophwj^d eto yn myned ymlaen yn yr un duli goruch- el a hyawdJaidd, gan ddywedyd, "Efe a ddychwel, efe a drugarhâ wrthym; efe a ddarostwng ein hanwireddau ; a thi a defii ein holl bechodau i ddyfnder- oedd y môr." Mae y Duwdod yn rhag- orol mewn gallu yn gystal ag yn gyf- oethog mewn trugaredd. Mae ynddp raslonrwydd anfeidrol i faddeu pechod- au, ac mae ynddo allu diderfyn i'w taflu i ddyfnderoedd y môr. Mae y gwaed a dywalltwyd yn iawn yn foroead-di- waelod o haeddiant; ac nis gall y beìau a dafiwyd i'r dyfnderoedd hyn wneuth- ur eu ffordd i'r wyneb drachefn. Pwy a all roddi adgyfodiad i'r pechod a gladd- odd Duw jti nyfnder anghof ì " Died- ifarus yw doniau a galwedigaeth Duw." " Gan yr Ai'glwydd ein Duw y mae tru- gareddau a maddeuant." Mae trugar- eddau a maddeuant yma wedi eu clymu â'u gilydd. Maddeu yw gwaith hyfrydaf trugaredd. Mae yn un o'r rhoddion.