Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. CLXXXVn.] GORPHENAF, 1862. [Llyfr XVI. fe-etjwta. Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM GRIFFITHS, BROWYR GAN Y PARCH. DAVID HOWELLS, ABERTAWY. Rhoddwyd cofFâd byr aru farwolaeth y Parch. Williain Griftìths yn y Drysorfa ara fis Medi diweddaf. Ceir hefyd yn y rhifyn hwnw y ftrwyth diweddaf o'i îafur fel gohebiaeth, dan y pen o Hau a Medi. Parhäodd efe i hau yn flyddlawn hyd ddiwedd ei oes. Ein hadnabyddiaeth o hono, ein cyui- deithas âg ef, a'n hanwyldeb ato, sydd yn cyfreithloni i ni ddyweyd am dano í'el y dywedodcl Paul am Tychicus, " Y brawd anwyl, a'r gweinidog ftyddlawn, a'r cydwas yn yr Arglwydd." Ysgrif- enodd lawer o draethodau gwerthfawr i'r Drysorfa, ac amryw i'r Cylch- grawn a gyhoeddid dan olygiad y Parch. W. Williams, Abertawy, y rhai a fawr brisid gan bawb a hoffent bethau sylweddol ac adeiladol. Pe cesglid y cyfryw draethodau i'w cyhoeddi yn un gyfrol, byddent yn hylaw i'r darllenydd fel trysor cyfoethog o sylwadau ar gref- ydd ysbrydol, brofiadol, ac ymarferol. Yr oedd meddwl ein brawd yn fywiog a llafurus hyd y diwedd. Ei ysgrrf olaf a ymddangosodd ar ol ei farwolaeth. Mae yn sicr genym y carai llaweroedd wybod ychwaneg am dano. Awyr iach Sir Benfro a anadlodd Mr. Griftìths gyntaf. Fe'i ganwyd Rhagfyr 21ain, 1788, yn y lle a elwir Blaenbrwyneu, plwyf Clydey. Enw ei rieni oedd Thomas a Mary Griífiths; " ac yr oedd- ynt ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd." Felly y tyst- iolaethai Mr. Griffiths ei hun am ei rieni. Bu iddynt chwech o blant. Yr oeddynt yn ddiwyd yn yr ymarferiad o dduwioldeb gartref, yn ffyddlawn a chyson ymhob rhan o grefydd deulu- aicícl; addysgu, addoli, a llywodraethu. Cafodd yr olí o'r plant greíýdd, a chaf- odd dau o honynt eu galw i fod yn weinidogion y gair. Samuel Griffiths oedd weinidog gyda'r Annibynwyr, ac a wasanaethodd yr eglwys Gymiulleidf äol yn Horeb, Sir Aberteifi, hyd ddiwedd ei oes, yn enwog, ffyddlawn, a llwyddian- nus. Bu efe farw, m'ewn oedran teg, ychydig o flaen ei frawd William. Rhoddai y ddau fri mawr ar yr hy- fforddiant a gawsent ar aelwyd eu tad. Ond ar yr un pryd, byddent yn cyd- nabod eu bod, er yr holl fanteision, yn amddifad o fywyd crefydd hyd oni welodd Duw yn dda eu tynu ato eì hun. Dywed gwrthddrych ein sylw ei fod ef dan argraffiadau dwys ynghylch ei achos tragywyddol er yn ieuanc, naw mlwydd oed ac ymlaen; yr oll yn fraw a d3Tchryn, heb wybod dim am ryddid yr efengyl, gan ddal gyda ffurf o gref- ydd, ond heb ei gryin, hyd nes oedcl yn hêdair ar bymtheg oecì. Cyfnod hynod yn ei fywyd oedd y flwyddyn hon. Yn y flwydäyn hon—. 1808—gorfu arno fyned yn filwr yn militiâ Sir Gaerfyrddin. Bwrhvyd y coelbren i'r arffed, a'r coelbren a syrth- iodd ar William. Pan gymerodd hyn le, nid oedd ganddo fodd i gyflogi neo i wasanaethu yn ei le, felly rhaid oedd iddo fyned ei hun yn ddioed. Yr oedd y blynyddau hyny yn flynyddoedd o ryfel rhwng y wlad hon â Ffrainc; ac felly bu raid i wŷr militia Sir Gaer- fyrddin, fel o rai Siroedd eraill yn