Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXXVI.] MEHEFIN, 1862. [Llyfr XVI. 'OítMfya'bw. ADOLYGIAD AR Y DIWYGIAD. GAN Y PARCH. THOMAS PHILLIPS, HEREFORD. Yr ydym yn cofio yn dda ain yr amser pan yr oedd y Diwygiad yn beth pres- ennol, sylweddol, a gweledig yn ein plith,—y misolion yn llawn o liono, a'r papyrau newyddion hefyd yn croniclo ei weithrediadau grymus a chynnyddol. Nid yw ond megys doe pan yr oedd miloedd o eneidiau, a myrdd o dafodau, yn gogoneddu Duw, ac yn dywedyd, " Bendigedig fyddo yr Arglwydd, canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i'w bobl." Mewn rhai lleoedd, y mae yr Adfy wiad mawr a ddechreuodd tua thair blynedd yn ol yn parhâu eto gyda gradd- au o rym a gwresogrwydd, a'i ddylanw- ad yn cael ei deimlo o fewn cylchoedd ëang a phwysig. Ond yn gyffredin rhaid i ni ei gyfrif ymysg y pethau a fu, a'i weithrediadau allanol ymhlith y pethau a aethant heibio! Nid oes dim yn new- ydd nac yn ddyeithr yn hyn. Amserol a therfynol oedd y diwygiadau a gof- nodir yn yr Ysgrythyrau sanctaidd. Felly hefyd y gellir dywedyd am yr adfÿwiadau dan yr oruchwyliaeth ef- engylaidd, mewn gwahanol wledydd, ac mewn gwahanol oesoedd. Os cyfyngir ein holrheiniadau i hanes crefydd yn y canrifoedd diweddaf oll, gan gymeryd i mewn y deffröad mawr yn Nghymru, trwy offeryniaeth Harris, Rowlands, ac eraül, gwelir mai ar amserau, am dym- mor, ac mewn amrywiol ardaloedd, yr oedd y cynhyrfiadau mawriòn yn cael eu teimlo; ond eto yr oeddynt yn wir ddiwygiad ar foesau y wlad, ac yn gyn- nydd ar achos gwir grefydd ymhlith y tngolion.* * Ceir esianiplau a phroflon o byn yn y cyfrolau Gelwir sylw ein darllenwyr yn bree- ennol at yr Adfywiad mawr diweddar â pha un y bendithiodd yr Arglwydd y Dywysogaeth. Gofidus ydyw fod ỳn rhaid cysylltu y gair diweddar â symud- iad crefyddol y gobeithiodd llawer ei fod yn beth i barhâu, ac i helaethu a chynnyddu, nid yn unig yn y wlad hon, ond hefyd i gyrhaedd gwledydd a chen- edloedd eraill hefyd, ac i orphen yn y milflwyddiant dedwydd, pan y byddai "gwybodaeth yr Arglwydd wedi Uanw y ddaear megys y töa y dyfroedd y môr." Nid anmhriodol, nac anfuddiol, fydd- ai cynieryd mantais ar yr adeg bresen- nol i adolygu y Diwygiad, fel y gwelwyd ac y teimlwyd ef yn Nghymru o fewn y blynyddoedd diweddaf. Yr ydym bell- ach yn sefyll ar safle manteisiol, heb fod yn rhy agos at y gwrthddrych, nac ychwaith yn rhy bell oddiwrtho. Yn yr adolygiad ar ddechreuad, cynnydd, ac effeithiau y Diwygiad, mae yn dra theb- ygol y ceir defnyddiau diolchgarwcn, ymostyngiad, gwyliadwriaeth, a gweddi. Yr oedd ei gychwyniad yn fych- an a distadl. Y mae pob peth mawr wedi bod yn fychan rywbryd. Yr ydym yn cael y dyn yn blentyn—y dderwen yn feaen— yr afon ddofn, lydan, yn gornant cid a bychan. Os dilynir y RheidoL yr Wy, a'r Hafren, i'w dechreuad, ceir hwy yn ffrydiau bychain yn treiglo dros letnrau mynydd Plinlimon (Pumlluman). Yr un modd, os edrychwn jn ôl i gycnwyn,- gwerthfawr sydd yn cynnwys "Hcmes Methodist- taeth yn Nghymru,"—gwaith a ddyîai fod yn îlaw pawb sydd yn awyddus am wybod banes cynnydd a Uwyddiant yr efengyl yn eu gwiad eu hunaiu.