Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXXIV.] EBRILL, 1862. [Llyfb XVI. feetfwtaù CYSONDEB PÀUL AC IAGO. gan'y parch. r. roberts, aberteifi. I greadur o'r fath ag ydyw dyn, gyda'i ddealltwriaeth byr a'i wybodaeth an- mherffaith, yn cael ei gylchynu gan ryfeddod ar ol rhyfeddod, a dirgelwch ar ol dirgelwch, nid rhyfedd yw fod llawer o anhawsderau ac anghysonderan yn ymddangos hyd yn nôd yn y Dadgudd- iad Dwyfol. Un o'r pethau ag y mae " yr annysgedig a'r anwastad yn eu troi i'w dinystr eu hunain" yw yr anghy- sondeb ymddangosiadol sydd rhwng rhai rhanau o Air Duw a'u gilydd; ac un enghraifft o hyny ydyw yr hyn a ddy- wed Paul ac Iago ar " ffydd," " cyfiawn- hâd," a "gweithredoedd." Dywed Paul (Rhuf. v. 1), "Gan ein bod wedi ein cyfíawnhâu trwy ffydd." Ond y mae Iago yn gofyn (Iago ii. 14), "A ddichon ffydd ei gadw ef?" Paul (Rhuf. iii. 20), "Am hyny trwy weith- redoedd y ddeddf ni chyfìawnheir un cnawd yn ei olwg Ef." Iago (Iago ii. 21), " Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawhhawyd ef?" Paul (Rhuf. iii. 28), "Trwy ffydd y cyfiawnheir dyn heb weithredoedd y ddeddf." Iago (Iago ii. 24), "Chwi a welwch gan hyny mai o weithredoedd y cyfìawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig." Yn awr, wrth ganfod yr anghysondeb, neu dybied ei fod yn ei ganfod, y mae y darllenydd difeddwl yn ymddyrysu, ac y mae yr ammheuwr yn llawenychu ac yn cablu. Y mae eraill drachefn, fe allai, yn ol eu tueddiadau, ac er cyr- haedd eu hamcanion eu hunain, yn sef- ydlu yr oll o'u hathrawiaeth ar y naill gan wrthod y Uall. Ond y mae y dyn- ion mwyaf a goreu yn yr eglwys ymhob, oes wedi bod yn awyddus iawn i gael allan ryw lwybr cyfreitlúawn i gysoni y ddau ; ac oblegid methu yn yr ymgais, yr ydys yn cael rhai o'r tadau cyntefig, yn gystal a Luther ar y cyntaf, yn gwadu fod Epistol Iago yn ganonaidd. Clywn y craffus Bengel hefyd yn cwj^no o dan deimlad o'r anhawsder, gan ddy- wedyd " ei bod yn anhawdd i'r un per- son neu i'r un eglwys dderbyn Paul ac Iago fel yn og}i:uwch eu hawdurdod." Rhaid addef fod yma fesur o anhaws- der ; a diau fod ei ganfod a'i deünlo yn gymhwysder arbenig i'w symud neu i fyned drwyddo. Fel yr awgrymwyd, y mae lli'aws o dduwinyddion ac esbonwjT, fychain a mawrion, wedi bod uwchben y pwnc; ac hwyrach na byddai yn anfuddiol nac yn aimyddorol sylwi ar rai o'r prif gyn- lluniau o g}7sondeb a ddygwyd ymlaen o bryd i bryd. Wrth fyned heibio, gelhr sylwi yr haera Hug, Pabydd dysgedig, mai piîi ddyben Epistol Iago yw gwrthddyweyd Paul ar bwnc cyfiawnhâd drwy ffydcl! Nid yw holl dduwinyddion Eglwys Rhufain yn ni^med i'r un eithafìon a Hug; ond cymerant Iago fel y mae, a cheisiant ystwytho geiriau, brawddegau, a chyfresymau cedyrn Paul, fel y gallont blygu oddiar ffordd Iago, yr hwìi, medd- ant, sydd yn dysgu mẁ drwy weithred- oedd y ddeddf y cyfiawnhëir dyn, ond mai y ddeddf foesol yw hono, tra mai am y ddeddf seremonìol y mae Paul yn sôn. Nid llawer o wahaniaeth sydd rhwng y golygiad hwn a golygiad yr Esgob Bull, }ti ei Harmonìa Apostolica, yr hwn sydd yn llafurio i brofì mai