Skip to main content

Y DRYSORPA. Rhif. CLXXXIII.] MAWRTH, 1862. [Llyfr XVI. §Dr&et|r0ta, Y LLYTHYRAU AT SAITH EGLWYS ASIA. DADGUDDIAD II., III. GAN Y PARCH. GRIFFITH PARRY, CAERNARFON. Gellir edrych ar holl Lyfr y Dadgudd- iad fel un Epistol, a anfonwyd gan Fug- ail ac Esgob ein heneidiau o'i ystâd o ddyrchafiad gogoneddus yn y nefoedd at ei eglwys ar y ddaear. "Dadguddiad Iesu Grist" ydyw, "yr hwn a roddes Duw iddo et" fel Cyfryngwr a Phen ei eglwys; dadguddiad prophwydoliaethol —math o panorama ysbrydoledig—o helyntoedd amrywiol ei achos ar y ddaear mewn gwahanol gyfnodau, o ddechreuad Cristionogaeth hyd ei ddy- fodiad yr ail waith i farn. Y mae y "dadguddiad" hwn yn cael ei "hys- bysti," yn y lle cyntaf, "i'w wasanaeth- wr Ioan," a thrwyddo ef i'r Eglwys Gyffredinol hyd ddiwedd amser. Ond o fewn y llythyr mawr hwn at yr eglwys gj-ffredinol, y mae saith o lyth- yrau bychain megys yn amgauedig, wedi eu cyfeirio at gynifer o eglwysi neillduol, sef yr eiddo Ephesus, Smyrna, Perganius, Thyatira, Sardis, Philadel- phia, a Laodicea. Y mae gwahanol farnau wedi ífynu ymhlith esbonwyr er ys oesoedd o berth- ynas i'r cwestiwn, A ydyw y llythyr- au hyn o gymhwysiad neillduol neu gyffredinol ? A ydynt o natur hanesiol yn unig, neu ynte a ydynt hefyd yn brophwydoliaethol ? Mewn geiriau er- aill, a ydyw y llythyrau i'w hystyried yn unig fel yn cynnwys darluniad o an- sawdd yr eglwysi neillduol hyn ar y pryd, neu»ynte a ydynt yn edrych ymhellach, a thrwy yr eglwysi neillduol nyn yn rhag-gysgodi gwahanol agwedd- au ar yr egìwys Gristionogol mewn am- seroedd i ddyfod? Gellid crynhoi y gwahanol syniadau ar y cwcstiwn hwn, o bosibl, o dan dri golygiad. Y cyntaf a'r mwyaf syml ydyw—íod y llythyrau hyn, er wedi eu cyfeirio yn y lle cyntaf at y saith eglwys, a chyda golwg neill- duol ar eu hamgylchiadau hwy, eto wedi eu hysgrifenu er addysg yr eglwys gyffredinol ymhob oes; yr un'modd ag y mae Epistolau Paul at y Rhufeiniaid a'r Corinthiaid, ac eglwysi neillduol er- aill, wedi eu bwoiadu er addysg g}-ff- redinol. Yn ol y golygiad hwn, nid yd- ynt yn edrych yn ddim pellach na'r eglwysi y cyfeiriwyd hwynt atynt, ond yn unig ar yr egwyddor gyffredinol fod "pa bethau bynag a ysgrifenwyd o'r blaen" yn yr Ysgrythyr sanctaidd," wedi eu hysgrifenu er addysg i ni." Golyg- iad arall, yn. yr eithaf cyferbjTiiol i'r\in a nodwyd, ydyw—fod y llythyrau hyn, nid yn unig yn cyfateb i amgylchiadau y saith eglwys ar y pryd hwnw, ond hefyd yn amlinelliad prophw}rdoliaethol o saith o gyfnodau olynol yn hanes yr eglwys—y cyfnodau hyn yn cyiueryd i mewn ac yn dosbarthu holl dymmor Cristionogaeth, o esgyniad ei Sylfben- ydd i'r nefoedd hyd ei ddyfodiad yr ail waith i farn.* Ymhlith amddiffynwyr * Y mie rhai o'r esbonwyr sydd yn dal y golyg- iad hwn yn myned ymhellach fyth, ac yn gwadu pob sail hanesyddol i'r lljŵyrau. Barnant nad oedd y HythjTau mewn un modd yn cyfateb i am- gylchiadau yr eglwysi hyn ar y pryd, ond eu bod yn cael eu defhyddio yn unig fel cyfrwng i dros- glwyddo y brophwydoliaeth trwyddynt.—Trerwh's Commentary on thc Epistbs to the Seven Churches inÁsia: p. 231.