Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXXII.] CHWEFROR, 1862. [Lltfr XVI. %mfyaìmtt. UNDEB Y CYFUNDEB—CYMDEITHASFA GYFFREDINOL I'R GOGLEDD A'R DEHAU. GAN Y PARCH. DAYID EDWARDS, CASNEWYDD. Mae y dymuniad a deimlir y dyddiau hyn gan gynifer o'r Methodistiaid, ac yn enwedigol gan lawer o'r gweinidogion a'r "blaenoriaid mwyaf eu dylanwad yn y Cyfundeb, am fwy o undeb rhwng y Gogledd a'r Dehau, yn addaw yn dda am barhâd a chwanegiad defnydäioldeb y Coríf am oesau i ddyfod. Fel y mae nifer aelodau, eglwysi, a swyddogion y Cyfundeb yn amlhâu, a maes llafur crefy ddol yr en wad y n Nghymru a Lloegr yn ymëangu, mae anhawsder cyn- nyddol yn cael ei deimlo i ymdrin âg achosion cyffredinol y Corff yn Nghym- deithasf äoedd Chwarterol y ddwy Dal- aeth. Oddiar fod yr anghyfleusdra mewn cysylltiad â'n Cymdeithasfäoedd pres- ennol yn cael ei gydnabod mor gyffred- inol, a hod llawer o ymddyddan per- sonol rhwng brodyr o'r Gogledd a'r Dehau bellach er ys blynyddau, o barth i'r dymunoldeb o adsefydlu a diogelu yr undeb, mae'r achos wedi ei godi o'r diwedd i sylw y Gymdeithasfa. Yn Aberystwyth, yn Nghymdeithasfa Ebrill y llynedd, y bu yr ymddyddan cyntaf ar hyn, ac yn Cendl, y Gymdeithasfa gan- lynol, bu ymddyddan pellach. Yn Nghymdeithasfa Castellnewydd yn Em- lyn, fìs Awst, bu y peth dan ystyriaeth neillduol Cyfeisteddfod y Blaenoriaid; ac yno y cyttunwyd ar gynnygiad ffurf- iol am undeb chwanegol rhwng y Gogledd a'r Dehau, yr hwn a gymerad- wywyd ac a fabwysiadwyd yn unfrydol gan y Gymdeithasfa ganlynol yn Aber- gwaen.* Mewn canlyniad i'r symudiad yn y Dehau, a chyda golwg yn benodol ar benderfyniad Cymdeithasfa Aber- gwaen, darfu i frodyr y Gogledd gymer- yd pwnc yr undeb i'w hystyriaeth yn Nghymdeithasfa Gwrecsam; ac wedi dadgan yn unfrydol a gwresog eu cyd- ymdeimlad calonog â'r ysgogiad o blaid undeb ychwanegol, ac hefyd dros sefydlu Cymdeithasfa Gyffredinol i'r holl Gorff, gohiriwyd yr achos i ystyriaeth ac ym- di'iniaeth pellach y Cymdeithasfäoedd dyfodol yn y Dehau a'r Gogledd. Felly gan mai pwnc yr undeb sydd yn addaw bod yn brif destun y dydd rhwng Meth- odistiaid y ddwy Dalaeth am rai misoedd i ddyfod, tebygol nad annerbyniol fydd giir arno trwy gyfrwng Cylchgrawn y orff. Nodwn yn 1. Mae cyfansoddiad y Cyfundeb, neu Ffurflywodraeth Eglwysig y Methodist- iaid Calfìnaidd, yn darparu fod i'r enw- ad barhâu yn Nghymru a Lloegr yn Gorff unol, dan arolygiaeth y Gymdeith- asfa Chwarterol. Mewn cysylltiad â Chyffes Ffydd a Rheolau Dysgyblaethol y Corff, mae yn argraffedig ein "Trefn Eglwysig," oddiwrth yr hon y mae yn amlwg fod ein tadau wedi arfer y gofal mwyaf i ddiogelu undeb parhäol rhwng y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymra a Lloegr. Trefnir i'r Cymdeithasau Neillduol fod yn undeb Cyfarfod Misol * Gwel Goftiodau Cymdeithasfa Abergwaen jna j Drysorfa am Rhagfyr diweddaf, tu dal. 415.