Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA, Rhip. CLXXX.] RHAGFYR, 1861. [Llyfr XV. ŵmtlgGòw. Y PETHAU A YSGYDWIR A'R PETHAU NH> YSGYDWIR, GAN Y PARCH. DAVID SAUNDERS, ABERDAR. "Llef yr Hwn y pryd hwnw a ysgydwodd y ddaear, ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn tmig yddaear ond y nef hefyd. A'r eto unwaith hyny sydd yn hysbysu syniudiad y pethau a ysgydwir niegys pethau wedi eu gwneuthur, fel yr aroso y pethau nid ysgydwir."—Hebreaid xii. 26, 27. Ymddengys mai amcan yr Apostol yu y geiîiau uchod ydoedcl dwyseiddio medd- yliau yr Hebrëaid, trwy beri iddynt deimlo rhagoroldeb a phwysigrwydd mwy y Cyfammod Newydd rhagor yr Hen; o herwydd fod y cynhyrfiad rhag- íiaenol i'w sefydliad yn llawer iawn mwy. " Llef yr hwn (sef Duw) y piyd hwnw," yn ngosodiad Cyfammod Sinai, nid " ysgyd- wodd " ond " y ddaear " yn unig; " ond yn awr efe a addawodd" gyda chyfeiriad at sefydliad yr oruchwyliaeth bresennol, "gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn imig y ddaear, ond y nef hefyd." I'r dyben o ganfod a theimlo y cyferbyniad sydd yn y geiriau, nid yw yn anhebgorol penderíÿnu pa feddwl pendant a gynnwysir yn yr ymadrodd- ion "y ddaear yn unig" a'r "nefoedd a'r ddaear ;" oblegid y mae hyny yn cael ei deinílo ar unwaith yn narlleniad y geiriau, pa ystyr bynag a roddir iddynt. Ond y mae yn bur amlwg fod yr ymad- roddion hyn i'w cymeryd yn arwyddol (syrnbolical), ac nid yn llythyrenol. Y cwestiwn anliawdd i'w benderfynu, ac ynghylch yr hyn y mae Uawer o wahan- ol ìarnau, ydyw, Arwyddion o ba bethau neillduol ydynt ? Dadleuir gan rai, fod yr yinadrodd " ysgwyd y ddaear y pryd hwnw," yn golygu y cyfnewidiad a effeithiwyd trwy ddygiad i mewn oruch- wyliaeth ddaearol a chnawdol y TJieo- cracy Iuddewig; a bod "cynhyrfu nid yn unig y ddaear ond y nef hefyd," yn golygu y difodiad a wnaed ar ddaearol- deb yr oruchwyliaeth hono trwy ddyg- iad i mewn oruchwyliaeth fwy ysbryd- ol a nefol y testament newydd. Honir gan eraill, mai y byd paganaidd, yn wladol a chrefyddol, a feddylir wrth y "ddaear," a bod "ysgwyd y ddaear y pryd hwnw " yn golygu y dynichweliad gwladol a chrefyddol a brofodd y Ca- naanëaid pan arweiniwyd y bobl ethol- edig i'w tir eu hunain, ac y sef)rdlodd Duw ei ddeddfau a'i farnedigaethau yn eu plith. Wrth y nefoedd y golygant ordeiniadau Duw ei hun yn yr eglwys Iuddewig. Ac felly y mae "cynhyrfu nid yn unig y ddaear ond y nef hefyd," yn golygu chwjddroad paganiaeth a dymchweliad Iuddewiaeth—yr hyn a effeithiwyd yn sefydliad Cristionogaeth. Tybia eraill, nad oes unrhyw ystyr ben- dant i'r geiriau o gwbl, ond niai cyfer- byniad }*n unig sydd rhwng y rhanol a'r cyffredinol. Felly, " ysgwyd y ddaear" a olyga chwyldröad neu gyfnewidiad rhanol; a "chynhyrfu y nefoedd a'r ddaear" a olyga ch\vyldröad neu gyfnew- idiad trwyadl a chyffredinol. Ond ym- ddengys i ni nad ydyw o ln\ys mawr i ni benderfynu, tuag at ddilyn rhediad meddwl yr Apostol, a theinúo grym ei ymresymiad, pa un o'r golygiadaii uchod