Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Ehif. CLXXIX.] TACHWEDD, 1861. [Lltfr XV. %mt|jote SYLWADAU AE BREGETHWYR A PHREGETHAU YR OESOEDD BOREUAE. GAN Y PARCH. JOHN HUGHES, LIYERPOOL. Mae yn amlwg fod pregethu yr efengyl yn un o'r prif osodiadau a sefydlodd Mab Duw yn yr eglwys. Nid oes un cyf- nod wedi bod arni er pan ddywedodd Ef wrth ei swyddogion cyntaf, u Ewch, a phregethwch yr efengyl," nad oedd pregethwyr a phregethu i'w cael ynddi. Byddai yn orchwyl hyfryd olrhain ei hanes mewn gwahanol oesoedd, a sylwi ar ofal ei Phen am dani yn y peth hwn, —-fel y mae wedi cael ei chyflenwi gan- ddo â dynion ac â doniau yn cyfateb i'w chyflwr mewn gwahanol adegau. Ymhob oes, yr oedd yr Arglwydd Iesu £i codi ac yn cymhwyso dynion i gyf- wni gwaith yr oes hono. Er fod y weinidogaeth o ran ei hanfod yr un ymhob oes, y mae yn gwahaniaethu yn fawr yn ei flurfiau. Yr un efengyl a bregethid gan y Tacjau ag a bregethwyd ymhen mil o flynyddoedd gan y Diwyg- wyr; ac yr oedd pregethau y Diwygwyr, o ran sylwedd ac amcan, yr un â chenad- wri y g wir bregethwyr yn y dyddìau hyn; ond yr oedd y pregethu yn cymeryd ei flurf oddiwrth nodwedäau gwahanol oesoedd a gwahanol eglwysi. Yn oes- oedd cyntaf ein crefydd—>y cyfnod y gwelir hi yn ei eymíedd mwyaf—nid oedd y bregeth ond "gair o gynghor;" 5t: oedd y pregethu yn gwisgo carictor yr amser. Yn yr eglwysi Ue y rhoddir y lle mwyaf i'r sacramentau—y cyfrifir iodmath o rinwedd cyfriniol yn perth- yn i'w gweinyddiad—-nid oedd i'r breg- eth ond lle israddol yn yr addoliad cyhoeddus. Yn yr eglwysi Protestan- aidd, lle y rhoddir mwy o bwys ar addysg, ar oleuo y deall a meistroli y gydwybod, y mae y bregeth wedi bod mewn bri niawr. Mae yn cael ei hys- tyried hyd heddyw yn rhan arbenig o addoliad, ac fel y prif foddion i achub dynion. Y mae y ddawn i eglurhâu y gair trwy bregethu yn cael ei gyfrif gan yr eglwysi Protestanaidd yn gynihwys- der anhebgorol yn yr esgob neu y gweinidog. Gallem feddwl mai oddeutu diwedd y drydedd ganrif y daeth pregethu yn rhan arbenig o'r addoliad cyhoeddus. Yr oedd pregethu yn bod yn yr oes agosaf i'r apostohon; ond nid oedd yn amgen nag un o ranau yr addoliad ; ni roddid iddo ddim arbenigrwydd ar y rhanau eraill. Ychydig o gofnodau sydd ar gael am ddefodau gwasanaeth yr Eglwys yn yr oesoedd boreuaf; ond pe buasai genym ddarluniad cyflawn, nid ydym i feddwl y buasai yr eglwys yn y dyddiau hyn dan rwyniau i'w ddilyn yn ei holl fanylion. Nid oedd yr eglwys yn yr oesoedd diljTiol yn. gwneuthur hyny. Nid oedd y Tadau enwocaf yn ystyried fod yr eglwys, yn eu hamser hwy, dan rwymau 1 ddilyn camrau yr oesoedd o'u blaen. Ymffurfio, trwy rinwedd nerth a bywyd tufewnol yr eglwys, a wnaeth defodau yr addoliad, ac nid cael eu ffurfio gan gynçhorau, na'u "harosod gan ddeddfau eglwysig. Yr oedd y defodau hyn yn derbyn eu flurf, mewn rhan, odflivçTth brif nod- weddau crefydd y Oristionogion cyntaij