Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhip. CLXXVm.] HYDREF, 1861. [Llyfr XV. ŵmfyoìmtu SYLWEDD TAIR 0 BREGETHAU Y PARCH. JOHN JONES, EDEYRN. [Gan fod rhyw amgylchiadau wedi llesteirio ein hanwyl gyfaill o Liverpool i anfon ei draethawd erbyn y mis hwn, yr ydyin yn eael ein tueddu i ddodi yma gerbron ein darllenwyr sylwedd tair o bregethan un o bregethwyr enwocaf Methodistiaid Cymru yn ei ddydd,—y Parch. John Jones, Ed- eyrn. Cawsoni hwy yn ei ysgriflyfr pregeth- au ef ei hun, yr hwn a ddaeth i'n llaw trwy garedigrwydd Mr. R. I. Jones, Tremadoc. Er nad yw y sylwadau ond megys esgyrn y pregethau, ac heb eu gwisgo â'r gallu des- grifiadol a'r ffraethder arbenig oedd yn hynodi y pregethwr poblogaidd o Edeyrn yn ei draddodiad grymus, yr ydym yn eredu y cyfriflr hwynt, fel y maent, yn weddillion gwerthfawr o'r oes a aeth heibio, ac yn deilwng i'w cyhoeddi yn nghylch- grawn y cyfundeb.] Phhjppiaid i. 6 : " Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r Hwn a ddechreuodd ynoch waith da, èi orphen hyd ddydd Iesu Grist." Philippi ydoedcl brifddinas yn Mace- donia, ac a gafodd ei henw oddiwrth Pliilip, tad Alexaiider Fawr. Mae yn awr yn rhan o ythherodraeth Twrci. Yr oedd yma, ni a welwn, gristionogion da. " Gan fod yn hyderus yn hyn."—Mae miloedd o bethau nad allwn ni ddim bod yn liyderus ynddynt. Nis gallwn fod yn hyderus y byddwn byw yfory. " Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywed- yd, Heddysy neu yfory ni a awn i gyf- ryw ddinas, ac a aroswn yno flwyddyn, ac a farchnatäwn, ac a ennillwn ; y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory." Nid allwn fod yn hyderus y byddwn yn iach neu yn gysurus ymhen ychydig ddydd- iau. Er hyny gall duwiolion fod yn b-yderus yn hyn, a hyny y peth. mwyaf, Y mae bod yn anhyderus yn hyn yn ein gwneyd yn hynod o anghysurus. Ni a welwn y saint weithiau yn cael eu curo yn hyn. " Eto dywedodd Sion, Yr Ar- glwydd a'm gwrthododd, a'm Harglwydd a'm hanghofiodd" " Paham y dywedi, . Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddiwrth yr Arglwydd, a'm barn a aeth heibio i'm Duw ?" Y Salmydd yn ei wendid a ofynai, " Ai yn dragywydd' y bwrw yr Arglwydd neibio ? ac oni bydd efe yn foddlawn mwy 1 A ddarfu ei drugaredd ef dros byth ì a balla ei' addewid ef yn oes oesoedd ? a anghofìodd Duw drugarhâu? a gauodd efe ei dru- gaìeddau mewn soriant ?" " Y bydd ir Hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei orplien."—Sail yr apostol i an-. nog y Phibippiaid i gredu yr elai y gwaith ymlaen i berffeithrwydd, oedd meddwl am yr Hwn a ddechreuodd. Felly yr oedd sail Abraham: " Ac yn gwbl sicr ganddo am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i'w wneuthur hefyd." Ac felly Sarah ei wraig: "Ffyddlawn y barnodd hi yr Hwn a addawsai." At yr Hwn a ddechreuodd y dylem fyned i ymbil ar fod iddo fyned â'i waith ymlaen. " A Moses a ymbüiodd ger bron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr ennyna dy ddigof- aint yn erbyn dy bobl y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aipht trwy nerth mawr a llaw gadarn? Felly yr Aiphtíaid a glyw ; canys o'u mysg hwynt y dygaist dy bobl yma i fyny yn dy nerth." Dyl- em gadarnhâu y gweiniaid, fel Paul yn y testun, i gredu yr ä Duw â'i waith ymlaen, Dyma y gorchymyn: " Cad^