Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXVIL] MEDI, 1861. [Llyfe XV. ^mfyabm. Y GWYNFYDATJ. Matth. v. 1—12. GAN Y PARCH. GRIFFITH DAYIES, ABERYSTWYTH. Mae yn ddigon amlwg fod y dywediad- au hyn, a elwir " y Gwynfydau," yn gwneyd i fyny ragymadrodd y " bregeth ar y mynydd ;" pregeth fwyaf—gor- chestwaith y Prophwyd mawr ei hun. Er.mwyn cael golwg, gan hyny, ar y paragraph hwn fel rhan dr oll, rhaid i ni edrych arno yn ei gysylltiad â'r oll. Rhaid i ni felly gael golwg gryno ar yr holl bregeth. Paham y dewisodd yr Arglwydd Iesu y mynydd fel pulpud iddo ei hun ar yr aehlysur hwn, nid ydym yn gwybod; ond yr ydym yn gwybod hyn, ei fod, ar achlysuron neillduol, yn bur hoff o'r mynyddoedd, neu y rhan fynyddig o'r wlad. I'r mynydd y byddai yn ym- neülduo i weddio; ar y mynydd y gweddnewidiwyd ef; oddiar fynydd yr esgynodd i'r nefoedd; ac yma, y mae yn gwneyd ei ymddangosiad yn y cy- hoedd, trwy draddodi ei bregeth gyntaf, a'r fwyaf, ar y mynydd. Wrth feddwí am hyn, nis gallwn lai na chofio mai ar V mynydd y rhoddwyd y gyfraith. Felíy yma, y mae'r Deddfroddwr ei hun, yr hwn hefyd a wnaethpwyd dan y ddeddf, yn egluro purdeb, ysbrydoí- rwydd, a thragywyddol barhâd y ddeddf hono, ar y mynydd. Gyda golwg ar le ac achlysur traddod- iad y bregeth hon, nid oes genym nem- awr mwy na thybiaeth. Y dybiaeth fwyaf naturiól yw, fod ein ffiachawdwr yn awr ar un ol deithiau yn Galilea. Y wiae yn rhywle tua Chapernaum. Yno í y mae y tyrf äoedd yn ymgasglu o'i am- gylch. Wrth eu gweled y mae yntau yn esgyn i'r mynydd. Yno y mae y äysgyblion yn ffurfio y cylch nesaf ato ; ac y mae yntau "yn agor ei enau, ac yn eu dysgu hwynt." " Efe a agorodd ei enau, ac a'u dysg- odd hwynt." Ni ddy\vedir felly am Grist mewn cysylltiad âg un o'i bregeth- au ond ei bregeth ar y mynydd. Mae yn ymddangos, gan hyny, fod rhywbeth pwysig yn yr. ymadrodd. Yr oedd Luther yn meddwl ei fod yn cadarnhâu ei syniad ef am bregethu, sef, "Agor dy enau, llefara yn hyf, a therfyna yn fuan." Ond nid yw jn ymddangos ei fod yn golygu dím yn ychwaneg na dechreuad gweinidogaeth Crist, neu, fe allai, ddechreuad unrhyw draethawd maith. Y mae yn dyfod i'n côf, yn y fan yma, ddywediad o eiddo Stìer: "Dyn yw genau y grëadigaeth, a Christ yw genau y ddynoliaeth." Y mae Crist yn gwybod am holl drueni dyn syrthiedig, yn cydymdeimlo â'r ddynoüaeth yn ei holl anghenion, yn dangos i ni ffordd iachawdwriaeth, yn dadleu ger bron Duw ar ein rhan:—efe yw genau y ddynoliaeth. Gadewch i ni, ynte, ymgasglu oddiam- gylch y Dysgawäwr mawr. Gadewch i ni- fod yn rhywle ymhlith y dysgyblion neu ymhbîth y tyrfáoedd, i wrando pa beth sydd ganddo i'w ddywedyd wrth- ym—-pa wersi sydd ganddo i'w dysgu i ni. X mae Efe yn siarad â ni yn bres-