Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXV.] GORPHENAF, 1861. [Llyfr XV. aìmu. METHODISTIAETH CYMRU A BUGEILLAETH EGLWYSIG. GAN Y PARCH. OWEN JONES, DOWLAIS. Un o nodweddau Methodistiaeth Cyra- ru yw, ei bod wedi tyfu o honi ei hun, yn naturiol, heb gael ei chaethiwo gan unrhyw gynllun blaenorol. Ar y wyneb yniddengys hyn yn ddiffyg ac yn an- nhrefn; ond mewn gwirionedd y ìnae yn un o brif ragoriaethau y cyfansodd- iad. Y mae rhyw ddosbarth o bethau y rhaid eu cario ymlaen yn ol cynllun rheolaidd, ac onidê cyfarfyddent â dy- ryswch buan. Wrth fyned i wneyd rheilflbrcld, rhaid cael engineer i fwrw yr holl draiú, hyd y tunnel, pa faint o waith llanw mewn man araîi, lled yr afonydd, a chostau y pontydd, ac mor agos ag y byddo bosibl, draul gwneuth- uriad pob milldir o'r ffordd. Ond wrth blanu coeden, neu hau maes, nid oes y fath gynllun manwl—nis gellir tynu plan y goeden wrth ei phlanu, na phen- derfynu pa mor agos neu bell y mae y naill eginyn i fod oddiwrth y llall. "Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i'r ddaear, a chysgu a chodi nos a dydd, a'r had yn egino, ac yn tyfu y modd nis gŵyr efe; canys y ddaear a ddwg ffrwyth 0 honi ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar 01 hyny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen." Ýr ydym yn hòni serch crvf at Fethodistiaeth, am ei bod wedityfu o honi eihunan, heb un cyn- Uun blaenoroL Y mae yn well genym annhrefn y tŷ na threfh y fonwent. Y mäe Methodistiaeth yn hyn yn gyffelyb í gyîânsoddiad Prydain Fawr. Buasai yn anmhosibl i un dewin ddyfalu er ys daticant o flynyddau yn ol bethfuasai Lloegr heddyw, er fod llawer o honynt y pryd hyny. Gogoniant cyfansoddiad gwladol, neu eglwysig, yw fod ynddo elfenau i ystumio ei hun yn ol fel y byddo Rhagluniaeth y Nef yn tafiii goleu. Gan fod Methodistiaeth wedi teithio ar ol y golofn hyd yn hyn, yr ydyni yn hollol gredu y gwna hyny eto am oesoedd lawer i ddyfod. Ond cofiwn fod yn rhaid teithio, ac nid sefyll. Nis gall enwad o bobl sefyll mwy na christion unigol; na, y mae yn rhaid myned ymlaen, onidê fe fydd ar ol yn fuan. Y mae rhai cyfeillion yn ofhi symud, o barch i'r hen dadau; eithr nid parch i'r hen dadau a fyddai hyny, ond anmharch. Darfu y dosbarth cyntaf, fel Abraham, adael eu cenedl, a thŷ eu tad, i fyned i'r wlad yr oedd Duw yn ei dangos iddynt. Gwnawd symudiad mawr wedi hyny gyda'r ordeinio. Nid y lleiaf ychwaitíi yn ei ddylanwad ar ein cenedl oedd sef- ydliad yr Ysgol Sabbothol; ac wedi hyny y cynhyrfiad athrofaol. Am hyny yr yd- ym yn hòni mai diwygwyr oedd y tadau, ae mai gwir ddiwyg wyr yw eu holynwyr, ac nid y bobl sydd yn aros yn yr un- man. Pe buasai yr hen dadau ýn aros lle yr beddent, buasent yn aros yn yr Eglwys Wladol, ac ni buasai Methodist- iaeth yn dyfod i fod,—ni buasent hwy- thau ychwaith yn dadau yn yr ystyr hyn,—^ni buasai Sassiwn y Bala, na Sas- siwn Llangeitho, ná Chyfarfod MisoL na Chyferfod Blaenoriaid, na THBYSoaFA, na Dyddiadur byth yn cofhodi, nac yn cael ei gofnodi yn ìighroniclau amser.