Skip to main content

Y DRYSORFA, Rhif. CLXXIV.] MEHEFIN, 1861. [Lltfr XV. fmtMratt, INDIA A'R EFENGYL. GAN Y PAROH. WILLIAM PRYSE, SYLHET. [Cyn cael o honof hamdden i ddarparu Er- thygl ar y mater ëang a phwysfawr uchod, yn ol cais y Golygydd, llonwyd fi trwy dderbyniad ysgrii' arno oddiwrth y Parch. W. Pryse; a chyda hyfrydwch nid bychan yr wyf yn ei chyflwyno i'r Drysorfa, gan wybod ei bod yn llawer gwell na dim y gallwn i ei barotôi, a chan deimlo yn o hy- derus y sicrhé'ir iddi, fel cynnyrch meddwl Cenadwr a fu yn llafurio rhan o'r maes ei hunan, y sylw a'r ystyriaeth sydd yn deil- wng iddi. Gweddus yw crybwyll i Mr. Pryse ei hysgrifenu yn y bìvd, pan ar ei daith o Sylhet i Calcutta. J. R. Lẃerpool.] Yr efengyl ydyw prif ffynnonell gwar- eiddiad Ewrop ac America. Gwahanol ffurfiau a defodau cymdeithas a ddeill- iant, i raddau mawr, o hinsawdd foesol a meddyliol y cylch teuluaidd. Y teulu ydyw rhiaint cymdeithas. Pa le bynag y mabwysiedir egwyddorion a moesol- deb yr efengyl, fel prawf-faen ymddyg- iadau teuluaidd, ceir yno burdeb, heda- wch, rhinwedd, a defnyddioldeb. Ceisia rhai wadu cysylltiad yr efengyl â gwar- eiddiad y byd Cristionogol. Gallent yn gystal wadu cysylltiad yr haul â'r dydd; oblegid y mae ílawn cymaint gwahan- iaeth rhwng moesoldeb yr efengyl, ac uwchafradd moesoldeb Paganaidd, ag sydd rhwng pelydron yr haul a llewjTch benthyciol y Uoer. Y mae India yn wlad ëang, boblog- aidd, a chyfoethog. Eithr y mae heb wareiddiad, oblegid y mae heb efengyl. Wrth ŵraidd gwareiddiad yr hil ddynol ceir cylch bycnân serchoglawn y teulu; wrth wràidd dedwyddwch y cylch h^mw cyfarfyddir äg iawn gyfraniad awdurdod, dylanwad, a dyledswyddau cymdeithasol y ddau ryw—y gwiyw a'r fenyw; ac er iawn gyfraniad lle a dyled- s\vyddau y rhywiau, rhaid wrth yr efengyl. Ni chafodd y fenyw erioed ei lle priodol mewn cymdeithas yn absen- noldeb yr efengyl. Dyma un rhes^vm dros roddi yr efengyl i India. . . .>, Meddai India henafol ddysgeidiaeth, ac athronwyr, ac ysgrifenwjT galluog, a rhyfelwyr gwrol, a dylanwad helaeth; eithr ni feddai wareiddiad. Ei deddfau a'i harferion teuluaidd oeddynt druenus. Twyllid, darostyngid, gwerthid y fenyw; gommeddid iddi wybodaeth, diystyrid ei rhinweddau. cynwynol a'i dylanwad aruthrol. Gyda'r fenyw suddodd cym- deithas. Llygrwyd a difwynwyd ffjni- nonell gwareiddiad. Darllenasom gyf- rolau amryAV ynghylch addysgdeuluaidd a dyledswyddau y feny%v, eithr medd- yliem y gallem ddethol pynitheg neu ugain o adnodau o'r Bibl yn portrei- adu lle, dyledswyddau, a dylanwad an- ferthol y 'fenyw yn fturfiad y teulu, a'r teulu yn fturfiad cjTndeithas, yn tra- rhagori am^nit oll." "Hen gýnlliiniau addysg ydynt ddieffaith ac èiddil,', ebai Napoleon'wrth Madame Campan un dydd; " pa beth sydd anghenrheidiol er rhoddi gwell addysg i Ffrainc ì" " Mam- au," ydoedd yr ateb rhagorol. Rhodder " mamau " i India, yn meddu, yn dealL ac yn iawn-ddefnyddio eu Üe a'u dy- lanwad, a gellir gwareiddio a derchálu India mewn canríf. Yr efengyl ydyw yr unig gynllun pa tin a rydd ei Ue a 1