Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXXIII.] MAI, 1861. [Llyfr XV. &mt{rfftar. BRO MORGANWG. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, ABERTAWE. Ar dderbyniad llythyr ein cyfaill hoíf, Golygydd y DarsORFA, yn goiyu genym ddewis testun i ysgrifenu arno, gosod- asoni i lawr bedwar o destuuau, gan adael idda ef gymeryd ei ddewis o hon- ynt. Nid oedil ein Uythyr wedi cyr- haedd hanner y ffordd i'r Wyddgrug cyn bod ein nieddwl wedi ymsefydlu ar un o'r pedwar, wedi ei ranu yn benau ac yn f'anach dosbarthiadau, ac wedi dechreu llanw ambell un o'r rhai hyny. Yn ein calon yr oeddem 3-11 gobeithio y buasai ein cyfaill yn taro ar yr un hwnw, a buom ar fin ysgrifenu ato i gyi'arwyddo ei dJewisiad ; ond gadawsom y peth rhyngddo ef â Rhagluniaeth ; a phan ddaeth y rhês allan, cawsom, er ein siom- edigaeth, mai ar un arall o'r testunau y syrthiasai y goelbren olygyddol, a bod ein myfyrdodau ar yr un oedd bellach yn hoff destun, wedi myned am y pryd yn ofer. Os salw f'ydd ein hysgrif ar y testun hwn, gwasanaethed yr hysbysiad uchod i'el ein hesgusawd ; ond os bydd i'n pin gael ychydig o hwyl, ac ysgrifenu rhywbeth a fydd yn gymeradwy gan, ac yn fuddiol i, ein darllenwyr, gwasan- aethed fel rhagymadrodd. Bro Morganwg y gelwir y darn hwnw o'r Sîr sydd yn ymestyn ar hyd glàn Cul- for Caerodor, 0 Gaerdydd yn y dwyrain, i Benybont ar Ogwr yn y gorllewin. Y mae tuag ugain miìídir o hŷd, ac yn amrywio o bedair i wyth o filldiroedd o lêd. Nid yw y darn hwn 0 wlad yn gydweddol â'r drychfeddwl a gysylltir yn gyffredin â'r gair " bro." Nid yw yn wastadedd unffurf, nac yn ddy ffryn llyfn rhwng dau f'ynydd. Y mae yn hj'trach yn beth a eiìw y Sais, undulating plain; am yr hyn beth nis gallwn gael gwell cyfieithiad i'r Gymraeg na "gwastadedd rhithdonog." Y mae yno lawer 0 fân fryniau, ac o ganlyniad yn agos i'r nn nifer o fân ddyffrynoedd. Nid yn fyn- ych y gwelir golygfa mor ardderchog ag a gynnygir i'r llygad gan Fro Morganwg. Os teimla un o'n darllenwyr yn anrìhu- eddol i roddi derbjmiad i'n tystiolaeth ar y mater hwn, dymunem arno ddyfod ar y pymthegfed o Fehetìn nesaf, neu os bydd yn gwlawio ar y diwrnod hwnw, deued ar yr unfed-ar-bymtheg, a gwnaed y prawf drosto ei hun. Cymered y ger- bydres i station Llantrisant; yno goiyn- ed y ffordd i ben mynydd Garthmaelwg; ac ar ol cyrhaedd y fan hyny, cjmiered ei safle ar un o'r pedair carnedd a ddy- nodant "dair naid Arthur," a throed ei wyneb tua'r dehau. Bydd yr holl fro— ei meusydd gwyrddleision, ei choedwig- oedd prydferth, a'i mân bentrefydd, yn ymestyn tua'r dehau ac aswy ac o'i flaen. Tu hwnt iddi y gwel y Bristol Channel, a thu hwnt i hyny fynyddoedd Sîr Devon a Gwlad yr Hâf. Os gall ddal yr olygfa yna heb fod dan brofedigaeth i waeddi, gan mor ddysglaer ac ardderch- og ydyw, yr ydym yn tosturio wrtho. Y mae rhyw ddiffyg yn ei ben, nen ryw faich ar ei galon. Os dygwydda i xyw- beth ei alw i Lundain, cynghorem ef i arbed ei hun y drafferth a'r draul o fyned i weled y NationcU Gallery. Ond madd- eued ein darllenwyT hyn o ddychymyg. ofer. Y mae dymon o'r ísAìl€w cael,